Diwrnod tyngedfennol o rygbi i'r rhanbarthau yn Ewrop

  • Cyhoeddwyd
dan jones (scarlets), alun wyn jones (gweilch), tomos williams (gleision), cory hill (dreigiau)Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae mewnwr y Scarlets, Gareth Davies wedi dweud y bydd yn rhaid i'w dîm drechu "un o'r clybiau gorau yn y byd" i gyrraedd rownd nesaf Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Bydd y Scarlets yn sicrhau eu lle yn wyth olaf y gystadleuaeth os ydyn nhw'n trechu Toulon ym Mharc y Scarlets nos Sadwrn.

Mae'r Gweilch mewn sefyllfa debyg, ble byddai buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Clermont Auvergne hefyd yn sicrhau eu bod nhw'n ennill eu grŵp.

Yng Nghwpan Her Ewrop mae'r Gleision eisoes wedi sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf, tra bod gan y Dreigiau fymryn o obaith o ymuno â nhw.

Angen ennill

Yn dilyn eu buddugoliaeth pwynt bonws dros Gaerfaddon y penwythnos diwethaf, mae'r Scarlets bwynt yn unig y tu ôl i Toulon ar frig Grŵp 5.

Byddai buddugoliaeth yn sicrhau eu lle yn yr wyth olaf, ond os ydyn nhw'n colli neu'n cael gêm gyfartal bydd yn rhaid iddyn nhw ddibynnu ar ganlyniadau gemau eraill cyn gweld beth fydd eu ffawd.

Mae cefnwr Cymru Leigh Halfpenny yn dychwelyd i fainc y Scarlets wedi anaf i'w frest, ond mae Wayne Pivac wedi dewis cadw Rhys Priestland yn y crys rhif 15, gyda Dan Jones yn faswr.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y lle yn llawn," meddai Pivac.

"Dylai'r awyrgylch fod yn wych a 'dyn ni'n gobeithio am gefnogaeth y 16eg dyn."

Tadhg BeirneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Tadhg Beirne orffen symudiad gwerfreiddiol gan y Scarlets wrth iddyn nhw drechu Caerfaddon

Mae'r Gweilch yn teithio i Clermont, sydd ar frig Grŵp 2, gan wybod mai dim ond buddugoliaeth brynhawn Sadwrn fydd yn sicrhau eu lle hwythau yn y rownd nesaf.

Dim ond 15 pwynt sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, gan olygu ei bod hi'n debygol na fydd ganddyn nhw ddigon o bwyntiau i fynd drwyddo fel un o'r timau yn yr ail safle os ydyn nhw'n colli neu'n cael gêm gyfartal draw yn Ffrainc.

Un newid sydd yn nhîm y Gweilch ers y gêm gyfartal yn erbyn Saracens, gyda Hanno Dirksen yn dychwelyd i'r asgell a Dan Evans yn symud i safle'r cefnwr yn lle Sam Davies, sydd ar y fainc.

"Dwi heb chwarae yn rownd nesaf Cwpan y Pencampwyr gyda'r Gweilch, felly mae'n rhywbeth i edrych 'mlaen ato," meddai'r blaenasgellwr Justin Tipuric.

Cwpan Her

Mae'r Gleision eisoes wedi sicrhau y byddan nhw'n gorffen ar frig Grŵp 2 Cwpan Her Ewrop ar ôl trechu Toulouse yr wythnos diwethaf.

Maen nhw wedi gwneud chwe newid i'w tîm ar gyfer eu hymweliad â Lyon.

Gobaith prin iawn sydd gan y Dreigiau o gyrraedd y rownd nesaf bellach wedi iddyn nhw golli oddi cartref yn erbyn Bordeaux Begles yn eu gêm ddiwethaf.

Yr un tîm fydd eu gwrthwynebwyr ar Rodney Parade ddydd Sadwrn, a bydd angen buddugoliaeth pwynt bonws a nifer o ganlyniadau eraill i fynd o'u plaid nhw os ydyn nhw am barhau â'u siwrne yn Ewrop.