Gwrthdrawiad A487: Teyrnged tad i'w ferch fach a'i modryb

  • Cyhoeddwyd
Luke Ginniver a Mili WynFfynhonnell y llun, Luke Ginniver
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Luke Ginniver fod ei "fywyd wedi'i rwygo'n ddarnau"

Mae tad merch fach fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A487 yng Ngwynedd wedi talu teyrnged i'w "angel fach brydferth".

Bu farw Mili Wyn Ginniver, chwe mis oed a'i modryb, Anna Williams, 22, mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A487 ger pentref Gellilydan ar 11 Ionawr.

Mae mam Mili a chwaer Anna, Sioned Williams oedd yn gyrru'r car yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol ond sefydlog mewn uned arbenigol yn yr ysbyty yn Stoke.

Dywedodd Luke Ginniver ar ei dudalen Facebook fod ei "fywyd wedi'i rwygo'n ddarnau."

'Un mewn miliwn'

"Rydych yn deffro yn y bore, yn dweud eich bod yn eu caru, cyn gadael am y gwaith, ac yn sydyn iawn mae eich bywyd wedi'i rwygo'n ddarnau," meddai.

Wrth son am Mili, dywedodd Mr Ginniver ei bod hi'n "hyfryd deffro yn y bore ac edrych ar fabi oedd wastad yn gwenu ac mor hapus,

"Dwi wedi cael chwe mis gorau fy mywyd.

"Mili Wyn, roeddet ti mor brydferth ac roedd hi'n anrhydedd cael bod yn dad i ti.

"Roedd dy chwerthiniad yn dod a cymaint o hapusrwydd i bobl ac roedd dy wen yn ddigon i feddalu calon unrhyw un," meddai.

Bu farw Celt, ci'r teulu hefyd yn y gwrthdrawiad.

Ffynhonnell y llun, Luke Ginniver
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Celt, ci y teulu yn y gwrthdrawiad a dywedodd Mr Ginniver ei fod fel "brawd gwarchodol i Mili"

Mae Mr Ginniver yn disgrifio Celt fel "un mewn miliwn" ac yn "frawd gwarchodol i Mili Wyn."

Fe wnaeth Mr Ginniver hefyd dalu teyrnged i Anna, gan ddweud ei bod "fel chwaer" iddo.

"Byddai yn dy fethu, tydi dy rôl fel anti ddim yn dod i ben rwan, edrycha ar ôl fy angylion fyny fana," meddai.

'Cymuned mewn gwewyr'

Fe wnaeth 400 o bobl fynychu Gwylnos i'r teulu ym Mhenrhyndeudraeth nos Iau a dros 200 ym Mhorthmadog ar y nos Lun.

Mae dros £17,500 wedi'i gasglu fel rhodd i'r teulu drwy gyfraniadau.

Un o drefnwyr yr wylnos oedd Carys Haf Gaffey a ddywedodd fod y gymuned i gyd "mewn gwewyr."

Ar ddiwedd y deyrnged dywedodd Mr Ginniver: "Dwi yn eich caru i gyd. Cysgwch yn dawel fy angylion bach."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth dros 400 o bobl fynychu Gwylnos ym Mhenrhyndeudraeth nos Iau