Galwad AS i adolygu diogelwch ar yr A487 yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol lleol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad brys o fesurau diogelwch ar ffordd yng Ngwynedd.
Fe ddaw'r alwad gan AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A487 rhwng Maentwrog a Gellilydan yr wythnos diwethaf.
Bu farw Anna Williams, 22 oed o ardal Penrhyndeudraeth yn y fan a'r lle ar ôl i'r car Ford Fiesta yr oedd yn teithio ynddo wrthdaro â lori yn Ngellilydan.
Daeth cadarnhad ddydd Gwener fod Mili Wyn Ginniver o Flaenau Ffestiniog, oedd yn chwe mis oed, wedi marw yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.
Gostwng terfyn cyflymder
Mae Ms Saville Roberts wedi hefyd ysgrifennu at Ysgrifennydd Cabinet Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates yn gofyn am ostyngiad ar unwaith yn y terfyn cyflymder ar y gefnffordd droellog.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn gwbl ymrwymedig i wella diogelwch ar y ffyrdd a lleihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd ar ffyrdd Cymru.
Yn ôl Ms Saville Roberts roedd yna 26 o ddamweiniau ar yr A487 rhwng Maentwrog a Gellilydan rhwng 2016 a 2017.
"Mae'r ddamwain ddifrifol ddiweddaraf yma ar yr A487 yng Ngellilydan, sydd wedi gadael cymuned gyfan mewn galar, yn atgyfnerthu galwadau lleol hir sefydlog fod angen gwneud rhywbeth ynglŷn â diogelwch ar hyd y gefnffordd brysur yma," meddai'r aelod.
"Yn sgil y pryderon difrifol hyn ac er mwyn ceisio atal trychineb o'r fath rhag digwydd eto, rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ostwng y cyfyngiad cyflymder ar hyd y ffordd brysur yma, ac wedi galw am adolygiad diogelwch brys a chynhwysfawr o fesurau diogelwch ar hyd yr A487 gyda ffocws penodol ar y darn rhwng Maentwrog a chyffordd yr A470 yng Ngellilydan.
"Rydw i'n pryderu am y lefel bresennol o gyllid seilwaith sy'n cael ei gyfeirio at ein rhwydwaith ffyrdd gwledig hynafol. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu i wella seilwaith ein ffyrdd," ychwanegodd Ms Saville Roberts.
Nid yw achos y gwrthdrawiad lle bu farw Mili Ginniver, babi chwe mis oed ac Anna Williams, 22 oed, wedi ei gadarnhau eto. Fe fydd yr heddlu a'r Asiantaeth Gefnffyrdd yn cyhoeddi adroddiadau maes o law.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad hwn.
"Caiff y rhwydwaith cefnffyrdd ei arolygu'n rheolaidd ac mae unrhyw ddiffygion sy'n gysylltiedig â diogelwch yn cael sylw fel mater o flaenoriaeth.
"Mae'r Llywodraeth yn gwbl ymrwymedig i wella diogelwch ar y ffyrdd a lleihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2018