Teyrnged teulu wedi marwolaeth Vaughan Edwards yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Vaughan EdwardsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Vaughan Edwards bythefnos ar ôl yr ymosodiad yn Llanelli

Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn ymosodiad mewn clwb nos yn Llanelli ar noswyl Nadolig wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafodd Vaughan Edwards, 52 oed, ei anafu yng nghlwb nos Vista Lounge yn Llanelli yn gynnar fore Sul, Rhagfyr 24.

Cafodd eu gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ond bu farw yn yr ysbyty yr wythnos diwethaf.

Mae dyn 36 oed yn parhau ar fechnïaeth yr heddlu mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad ym mar Vista Lounge ychydig ar ôl hanner nos

Wrth roi teyrnged, mae teulu Vaughan Edwards wedi ei ddisgrifio fel "person ffantastig", ac fe fyddan nhw'n gwenu wrth gofio amdano.

"Cymar, tad, tad-cu, brawd, ewythr, ffrind a mentor, byddwn ni'n gweld dy eisiau yn fawr," meddai'r teulu mewn datganiad.

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un a oedd yn y clwb nos ar nos Sadwrn, Rhagfyr 23 ac oriau mân bore Sul Rhagfyr 24, ac a welodd unrhyw beth, i gysylltu gyda nhw.