Llywodraeth Cymru'n erlyn dau gwmni dros werthiant tir
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau cymryd camau cyfreithiol yn erbyn dau gwmni wnaeth roi cyngor i gwango mewn achos o werthu tir.
Dywedodd archwilwyr y gallai'r gwerthiant fod wedi codi mwy o arian nag y gwnaeth.
Cafodd 15 safle oedd dan berchnogaeth gyhoeddus eu gwerthu gan Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW) yn 2012 mewn un cytundeb gwerth £21m i South Wales Land Developments.
Mae Lambert Smith Hampton ac Amber Fund Management yn cael eu herlyn am dorri cytundeb ac o esgeulustod proffesiynol, ac fe ddywedodd Amber y byddan nhw'n ymladd unrhyw gamau yn eu herbyn.
Mae RIFW yn gorff sydd wedi ei berchen yn llwyr gan Lywodraeth Cymru.
Fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru ac adroddiad gan bwyllgor cyfrifon cyhoeddus y Cynulliad ganfod y gallai'r pwrs cyhoeddus fod wedi gwneud miliynau yn fwy o'r gwerthiant pe bai'r 15 safle wedi cael eu gwerthu mewn ffordd wahanol.
Yn ddiweddarach fe wnaeth y prif weinidog Carwyn Jones ymddiheuro wrth ACau am y gwerthiant, wedi i archwilwyr ddweud y dylai fod wedi cynhyrchu o leiaf £15m yn fwy i'r trethdalwr nag y gwnaeth.
Roedd y safleoedd yn cynnwys tir ym Mharc Imperial, Casnewydd; Llys-faen yng Nghaerdydd; Parc Busnes Llantrisant; a fferm Upper House yn Y Rhws.
"Doedd gwerthu darnau mawr o dir gwerthfawr mewn cytundebau preifat fyth yn mynd i sicrhau gwerth am arian i'r pwrs cyhoeddus, ac mae'n hanfodol fod y Llywodraeth Lafur yma'n dysgu gwersi," meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.
"Fe wnaeth Carwyn Jones addo y byddai'n cael ei ddwyn i gyfrif am y llanast hwn, ac mae'n destun rhyddhad fod gweinidogion nawr yn ceisio adfer rhai o'r miliynau o bunnau gafodd ei daflu i ffwrdd yn ystod y llanast yma gyda RIFW."
Dywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans fod RIFW wedi cymryd camau cyfreithiol yn y Llysoedd Busnes ac Eiddo yng Nghymru yn erbyn y ddau gwmni "mewn perthynas â gwerthiant darnau o dir cyhoeddus i South Wales Land Developments Limited yn 2012".