Canfod merch 10 oed o Sir Benfro fu ar goll

  • Cyhoeddwyd
laineyFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys

Mae merch 10 oed o Sir Benfro oedd wedi bod ar goll ers nos Lun bellach wedi ei chanfod.

Doedd neb wedi gweld Lainey Christopher, o Gil-maen yn Sir Benfro, ers tua 18:00 nos Lun.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod yn bryderus am les Lainey, gan ofyn i bobl am gymorth wrth ddod o hyd iddi.

Cafodd ei chanfod am tua 08:30 fore Mawrth.