Enwau Saesneg ar eiddo Cymru: Ydyn ni'n mynd o flaen gofid?
- Cyhoeddwyd

Tybed beth ydy enwau'r tai yma yn Aberaeron?
O edrych ar y newyddion yn ddiweddar, byddai'n hawdd meddwl bod achosion o newid enwau tai o'r Gymraeg i'r Saesneg wedi cyrraedd lefelau epidemig.
Mae gwefan golwg360 wedi bod yn gohebu ar y siom tros newid enw fferm i 'Mountain Sea View', dolen allanol yng ngogledd Ceredigion - a'r tro pedol, dolen allanol ddaeth wedyn.
Bu'r pwnc hefyd yn destun trafod ar y cyfryngau cymdeithasol:
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Ond o edrych ar yr ystadegau sydd wedi'u casglu - gan Gyngor Ceredigion yn yr achos hwn - mae stori wahanol yn amlygu'i hun.
Mewn adroddiad, dolen allanol gan bwyllgor iaith y cyngor - sy'n edrych ar y cyfnod rhwng Medi 2015 a Medi 2017 - fe welwn ni fod saith cais wedi eu cyflwyno i newid enwau eiddo o'r Gymraeg i Saesneg.
Ond roedd y nifer o'r ceisiadau am newid enwau eiddo o'r Saesneg i'r Gymraeg bedair gwaith yn fwy - 28 cais i gyd.
Yn ôl yr adroddiad mae "enghreifftiau o drigolion Seisnig yn symud i'r ardal yn ddiweddar ac yn gwneud cais i newid enw Saesneg eu heiddo i'r Gymraeg... er mwyn cefnogi traddodiad lleol a ffurfio perthynas â'r gymuned leol".

Dywedodd y cyngor wrth Cymru Fyw bod y nifer o geisiadau yn debyg o flwyddyn i flwyddyn.
O ran ceisiadau i enwi eiddo newydd, roedd 93 o'r rhain yn dymuno mabwysiadu enw Cymraeg o'i gymharu â 17 cais am enw Saesneg.
Mae Polisi Enwi a Rhifo Strydoedd y cyngor wedi bod mewn grym ers 2015 er mwyn annog perchnogion i ystyried rhoi enwau Cymraeg ar eu tai - er does gan y cyngor ddim hawl gorfodi newid enw.
Dywedodd arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, bod y cyngor wedi cymeradwyo'r polisi ar ôl derbyn cwyn gan "rywrai a oedd yn poeni oherwydd bod nifer o enwau tai yn cael eu troi i'r Saesneg".
Ychwanegodd ei bod hi'n "galonogol i weld bod y rhelyw o enwau tai yn cael eu troi yn ôl i'r Gymraeg, sefyllfa llawer mwy derbyniol".
Beth am y sefyllfa yng Ngwynedd?
Mae Cyngor Gwynedd yn awdurdod lleol arall sy'n annog trigolion i fabwysiadu enwau Cymraeg er nad oes ganddyn nhw chwaith yr hawl i orfodi newid.
Yn 2017 roedd yna 119 o geisiadau am enwi eiddo yng Ngwynedd gyda'r mwyafrif helaeth o'r rhain (102) yn y Gymraeg.
Dim ond 17 o geisiadau oedd am enwau Saesneg.
Dywedodd llefarydd ar ran Gyngor Gwynedd fod yna ambell i "gysylltiad hanesyddol gyda rhai".
