ACau UKIP yn gwneud cwyn am Mandy Jones
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau grŵp UKIP yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhuddo'r AC Mandy Jones o ddod ag anfri ar y blaid.
Yn ôl ffynonellau, mae cwyn ffurfiol wedi ei wneud gyda phencadlys UKIP yn cyhuddo'r AC newydd o danseilio'r grŵp yn y Cynulliad.
Fe wnaeth Ms Jones olynu cyn arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill fel AC yng Ngogledd Cymru dros y Nadolig.
Cafodd wybod na fyddai'n cael ymuno â gweddill grŵp UKIP, sy'n cynnwys pum AC, oherwydd ffrae ynglŷn ag aelodau o'i staff.
Dywed grŵp UKIP yn y Cynulliad fod Ms Jones yn cyflogi pobl sy'n aelodau o bleidiau eraill, neu oedd wedi ymgyrchu dros bleidiau eraill.
Yn gefnogwr o gyn-arweinydd UKIP Nigel Farage, mae Ms Jones yn parhau yn aelod o UKIP.
Mae'r gŵyn yn ei chyhuddo o danseilio gweddill y grŵp gan eu galw yn wenwynig.
'Hamilton yn unbenaethol'
Mae'r gŵyn hefyd yn sôn ei bod wedi cefnogi'r alwad i ddad-ddewis Garth Bennett AC fel ymgeisydd cyn etholiad y Cynulliad.
Roedd hi yn un o nifer o aelodau UKIP roddodd lofnod i'r cais ar ôl i Mr Bennett gysylltu problem sbwriel yng Nghaerdydd gyda mewnfudwyr.
Mae Ms Jones wedi dweud nad yw aelodau o'i staff yn ymwneud â phleidiau eraill.
"Rwy'n teimlo fod hwn yn ddim mwy nag ymosodiad arall arnaf i a fy swyddfa, oherwydd nad wyf yn fodlon i Neil Hamilton fy nhrin mewn modd unbenaethol.
"Tan i'r blaid wneud penderfyniad, ni fyddaf yn gwneud sylw pellach."
Dywedodd llefarydd ar ran UKIP Cymru: "Ni fydd UKIP Cymru yn gwneud sylw ar fater o ddisgyblaeth fewnol."