'Cysylltiad eithafol cyn ymosodiad fan Finsbury Park'
- Cyhoeddwyd
Cafodd dyn sydd wedi ei gyhuddo o yrru fan i mewn i grŵp o bobl yn Llundain gysylltiad gyda grwpiau asgell dde eithafol, mae llys wedi clywed.
Dywedodd yr erlyniad bod Darren Osborne, 48 ac o Gaerdydd, wedi derbyn neges ar Twitter gan is-lywydd Britain First, Jayda Fransen.
Clywodd Llys y Goron Woolwich ei fod hefyd wedi derbyn e-bost gan gyfrif sydd â chyswllt â'r English Defence League.
Mae Mr Osborne yn gwadu llofruddiaeth a cheisio llofruddio.
Cysylltiad eithafol
Clywodd y llys am weithgaredd arlein Mr Osborne cyn yr ymosodiad yn Finsbury Park ar 19 Mehefin y llynedd, lle bu farw Makram Ali, a chafodd naw eu hanafu.
Dywedodd yr erlynydd Jonathan Rees QC bod Mr Osborne wedi chwilio'r we am arweinydd Britain First, Paul Golding, ei ddirprwy, Ms Fransen, a Tommy Robinson, un o sylfaenwyr yr EDL, ar ôl ymosodiad London Bridge ar 3 Mehefin.
Clywodd y llys bod Mr Osborne wedi derbyn gwahoddiad i orymdaith gan gyfrif oedd yn defnyddio enw Tommy Robinson.
Dywedodd Mr Rees: "Does neb yn awgrymu mai fo [Mr Robinson] wnaeth ond yn amlwg pobl sy'n dilyn Tommy Robinson."
Wrth ddechrau'r achos ddydd Llun, dywedodd Mr Rees bod "y dystiolaeth yn dangos fod y diffynnydd yn ceisio lladd gymaint o bobl â phosib".
Clywodd y llys hefyd gan gyn-filwr, a ddywedodd ei fod wedi clywed Mr Osborne mewn tafarn ym Mhentwyn yn siarad yn ymosodol am Fwslimiaid.
Mae Mr Osborne yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn, ac mae'r achos yn parhau.