'Dim canlyn yn yr ysgol' medd prifathro ysgol fonedd

  • Cyhoeddwyd
ysgol

Mae pennaeth ysgol fonedd yn Sir Ddinbych wedi rhybuddio disgyblion y gallai bod mewn perthynas o oed ifanc niweidio eu siawns o fynd i brifysgol safonol.

Fe ddaw rhybudd Mr Toby Belfield, Prifathro Ysgol Rhuthun, mewn e-bost i geisio darbwyllo disgyblion rhag bod mewn perthynas garwriaethol gyda'i gilydd.

"Mae rhieni'n dewis Ysgol Rhuthun oherwydd ei fod yn sefydliad academaidd o'r radd flaenaf," eglurodd.

"Yn fy mhrofiad i, mae myfyrwyr sydd mewn perthynas tra yn yr ysgol mewn perygl o dangyflawni'n academaidd.

"Felly, os ydyn nhw'n neilltuo eu hamser i'w hastudiaethau, yn hytrach na thrallod emosiynol sy'n gysylltiedig â rhamant yn eu harddegau, byddan nhw'n ennill graddau gwell ac yn mynd ymlaen i brifysgolion gwell."

Dywedodd Mr Belfield na fyddai'n rhwystro siawns unrhyw fyfyrwyr o le mewn prifysgol, drwy ysgrifennu tystlythyr llai ffafriol pe baen nhw wedi cael eu dal yn caru, ond ychwanegodd:

"Mae hyn yn rhywbeth prin iawn - ac roedd fy e-bost yn un cyffredinol i bob myfyriwr, i geisio eu darbwyllo rhag bod mewn perthynas yn rhy ifanc."

Dywedodd Mr Belfield na fyddai unrhyw ddisgybl yn cael eu diarddel am fod mewn perthynas, ond ychwanegodd: "Rwyf am roi cyfle iddyn nhw adolygu eu sefyllfa garwriaethol gyfredol, a chredaf y byddan nhw (a'u rhieni) yn rhoi eu haddysg yn gyntaf."

Dulliau 'anghonfensiynol'

Mewn e-bost pellach i rieni ddydd Mercher, dywedodd Mr Belfield nad oedd "yn ymddiheuro am redeg ysgol sy'n llwyddiannus ac yn canolbwyntio ar lwyddiant academaidd", ac nad oedd ei ddulliau yn "gonfensiynol".

Ychwanegodd ei fod yn "credu'n gryf bod cael rheolau, polisïau a dulliau clir yn bwysig" a bod hynny'n creu "amgylchedd diogel, tawel a chefnogol" yn yr ysgol.

"Does yr un plentyn yn yr ysgol yn awtomatig - mae gan rieni'r hawl i ddewis o unrhyw nifer o ysgolion," meddai.

"Felly, os yw rhieni'n anhapus byddan nhw'n syml yn symud eu plant o Ysgol Rhuthun."

Nid dyma'r tro cyntaf i Mr Belfield gynhyrfu'r dyfroedd - mae eisoes wedi cyflwyno rheolau caeth a rhybuddio disgyblion benywaidd rhag gwisgo sgertiau "sy'n edrych fel eu bod ar fin troedio clwb nos" ac wedi lambastio "disgyblion yn esgus bod yn sâl".