Marwolaeth dyn mewn lifft yn ddamweiniol
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor mewn cwest wedi dod i'r casgliad fod dyn ifanc fu farw mewn lifft yn Abertawe wedi marw'n ddamweiniol.
Bu farw Cyran Stewart o Telford yn Sir Amwythig yn yr ysbyty bedwar diwrnod wedi iddo gael ei ddal mewn lifft ym mar Walkabout yn Abertawe yn 2014.
Clywodd y cwest fod y dyn 20 oed wedi cael ei wasgu gan lwyth o stolion trwm wrth iddo eu symud o'r seler i'r bar ei hun.
Wedi iddo lwytho wyth o'r stolion i mewn i'r lifft, doedd y giât ddiogelwch ddim yn cau, gan arwain at Mr Stewart yn diystyru mecanwaith diogelwch drws mewnol y lifft.
Dywedodd y prif reithor: "Wrth i'r lifft godi, aeth coes un o'r stolion yn sownd ar ymyl y llawr isaf gan achosi i'r dodrefn symud a gwasgu Cyran yn erbyn wal y lifft.
"O ganlyniad i'r anafiadau a gafodd bu farw Cyran yn ddiweddarach yn yr ysbyty ar 28 Chwefror."
Cofnodwyd achos ei farwolaeth fel anafiadau i'w ymennydd o ganlyniad i ddiffyg ocsigen a niwmonia.
Clywodd y cwest dystiolaeth gan Richard Morris o'r Gwasanaeth Tân ac Achub a ddywedodd fod y lifft yn "eitha hen ffasiwn".
Dywedodd y crwner na fyddai'n cyflwyno adroddiad i atal marwolaethau yn y dyfodol er bod ganddo bryderon am y meddalwedd oedd wedi'i ddefnyddio i gadw cofnod o waith cynnal a chadw ar y lifft.
Wedi'r cwest dywedodd mam Cyran Stewart, Elizabeth Galbraith nad oedd yn fodlon gyda chanlyniad y cwest.
Dywedodd: "Ni fuodd Cyran farw mewn damwain na ellid fod wedi rhagweld, ond mewn digwyddiad tebyg i sawl un arall oedd wedi digwydd o'r blaen ac un yr wyf yn credu fod rheolwyr yn ymwybodol ohonynt.
"Petaen nhw wedi gweithredu'n gynt rwyf o'r farn y gallen nhw fod wedi cymryd camau fyddai wedi atal fy mab rhag bod yn y sefyllfa yna yn y lle cyntaf.
"Wedi marwolaeth fy mab mae camau wedi'u cymryd. Bydd hynny'n atal mwy o farwolaethau ond ni fydd yn dod â Cyran yn ôl."