Tair am fod yn ddirpwy arweinydd Llafur

  • Cyhoeddwyd
Debbie Wilcox, Julie Morgan and Carolyn Harris
Disgrifiad o’r llun,

Debbie Wilcox, Julie Morgan a Carolyn Harris sy'n gobeithio sefyll

Mae tair menyw o blaid Llafur Cymru yn ceisio dod yn ddirprwy arweinydd cyntaf y blaid.

AC Gogledd Caerdydd, Julie Morgan, AS Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris ac arweinydd Cyngor Casnewydd, Debbie Wilcox yw'r rhai sy'n ceisio sicrhau digon o gefnogaeth ar gyfer y ras.

Mae rheolau'r blaid yn dweud fod rhaid i'r dirprwy fod yn fenyw os mai dyn yw'r arweinydd.

Bydd enwebiadau yn agor ar 9 Chwefror a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yng nghynhadledd Llafur Cymru ym mis Ebrill.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sicrhau 12 enwebiad o blith ACau, ASau neu ASEau er mwyn cael eu henwau ar y papur pleidleisio, ac mae'n rhaid cael cefnogaeth o leia dri AC ac AS.

Coleg etholiadol

Dywedodd Mrs Morgan: "Roeddwn i'n gynghorydd am 12 mlynedd, yn AS am 13 mlynedd a nawr yn AC am dros chwe blynedd ac rwy'n credu mod i mewn sefyllfa dda i ddod â phob rhan o'r blaid at ei gilydd ac i weithio'n agos gyda'r aelodau."

Yn ôl Ms Harris, dylai'r dirprwy arweinydd fod yn "rôl ymgyrchu o fewn y blaid," gan ychwanegu: "Mae gen i lond pen o syniadau, lond galon o drugaredd a llais sydd â dim ofn cael ei glywed."

Dywedodd Ms Wilcox, sydd hefyd yn arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Rwy'n dda iawn am arwain timau, ac yn enwedig yn dilyn digwyddiadau trasig y llynedd - sy'n dal i effeithio Llafur - mae'n rhaid symud ymlaen mewn modd trugarog...dyna'r undod yr wyf yn ei gynrychioli."

Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan goleg etholiadol y blaid yn hytrach nag etholiad un-aelod-un-bleidlais (OMOV).

Fe ddaw'r etholiad yng nghanol cyfnod o ddadlau o fewn y blaid am y rheolau am ddewis yr arweinydd a dirprwy arweinydd nesaf.

Mewn ffrae o fewn y cabinet, mae rhai am weld y sustem OMOV yn cael ei fabwysiadu tra bod eraill am gadw gyda'r coleg etholiadol.

Mae cefnogwyr OMOV am weld y sustem yn newid yn ystod cynhadledd y blaid.