Tynnu 'nôl o gynllun i godi marina newydd yn Abergwaun

  • Cyhoeddwyd
Abergwaun
Disgrifiad o’r llun,

Abergwaun

Mae cwmni datblygu wedi cyhoeddi nad ydynt am barhau a chynlluniau i godi marina newydd yn Abergwaun ac Wdig yn Sir Benfro.

Fe roedd y cwmni Conygar wedi dweud y byddant yn codi 250 o fflatiau ar safle 80 acer a marina gydag angorfeydd ar gyfer 450 o gychod.

Cafodd caniatâd cynllunio ei roi yn 2012.

Dywed Conygar nad oedd y prosiect yn gallu parhau oherwydd penderfyniad cwmni fferi Stena i roi'r gorau i gefnogi'r cynllun.

Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o'r cynllun i ddatblygu'r marina

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro eu bod yn siomedig "na fydd y cynllun i ddatblygu'r marina yn mynd yn ei flaen yn ôl y bwriad".

"Mae hyn yn newyddion siomedig iawn i Abergwaun, Gwdig a holl ardal gogledd Sir Benfro," meddai Paul Miller, aelod o'r cabinet gyda chyfrifoldeb am ddatblygiad economaidd.

"Ar ôl cwrdd â phrif weithredwr Conygar, Robert Ware, yn Llundain y bore yma mae'n ymddangos yn y dyddiau diweddaf fod Stena - y cwmni fferi sydd â hawl perchnogaeth ar y tir o amgylch y porthladd - wedi penderfynu peidio cymryd rhan yn y cynllun."

"Mae hynny yn ei gwneud yn amhosib i Conygar barhau'r â'r cynllun fel ag yr oedd.

"Mae'n amlwg y bod yn rhaid i ni ailfeddwl ac ailwampio ein cynlluniau ar gyfer datblygu yn Sir Benfro, ac fe fydd arolwg ffurfiol yn cychwyn ar unwaith."

Mewn datganiad dywedodd cwmni Stena eu bod wedi bod yn cydweithio mewn modd adeiladol gyda Conygar a'u bod wedi cyfrannu mewn modd gwerthfawr i'r prosiect dros gyfnod o saith mlynedd.

"Ond ar ôl adolygu ein gweithgareddau o ran yr hyn rydym yn gobeithio datblygu o ran Môr Iwerddon rydym wedi penderfynu tynnu nôl o brosiect y marina, gan fod angen canolbwyntio ar ein busnes craidd," meddai Niclas Mårtensson, prif weithredwr Stena.

"Rydym wedi llwyr ymroi i ddyfodol ein gwasanaethau fferi rhwng Abergwaun a Rosslare, rhywbeth sy'n cael ei amlygu gan ein buddsoddiadau sylweddol."

Pan gafodd y cynllun gwreiddiol ei gymeradwyo yn 2012 y gred oedd y byddai'r datblygiad yn costio mwy na £100m.