Cyflwyno cynllun newydd gan y Llynges yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Associated British Ports wedi gwneud cais i Gyngor Caerdydd am ganiatâd i addasu cynlluniau ar gyfer canolfan gwerth miliynau o bunnoedd y Llynges Frenhinol ym Mae Caerdydd.
Mae'r sefydliad wedi bod yn ail-edrych ar ddyluniad o'r ganolfan fydd yn cefnogi'r Llynges Frenhinol.
Mae'r Llynges Frenhinol yn bwriadu buddsoddi £11m yn y safle fydd yn darparu cyfleusterau hyfforddi modern ar gyfer y lluoedd wrth-gefn am y 50 mlynedd nesaf.
Mae'r dyluniad newydd ar gyfer y ganolfan yn cynnwys cyfleusterau a dyluniad allanol newydd, sy'n "adlewyrchu gweledigaeth" y pensaer.
Mae'r datblygiad yn dilyn caniatâd cynllunio cychwynnol a phroses dendro gan gwmnïau adeiladu.
Bydd y prosiect yn cael ei chyflwyno ar ran y Llynges Frenhinol gan Warchodfa wrth gefn y Llynges a Sefydliad y Chadetiaid (RFCA) mewn partneriaeth â'r Associated British Ports (ABP), sydd wedi cytuno ar brydles tymor hir y lleoliad.
Dinas fodern a deinamig
Dywedodd y Comander Steve Fry, Swyddog Rheolaeth yr Uned Warchodfa Frenhinol Frenhinol ar long yr HMS Cambria: "Mae'r addasiadau yma i'r adeilad yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf i'r Llynges Frenhinol a chriwiau wrth gefn y Llynges o bob rhan o Gaerdydd i fwynhau. Rydym yn hapus i gael safle o'r fath ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog mewn dinas fodern a deinamig."
Mae ABP yn gweithio'n agos gyda'r Llynges Frenhinol i ailgynllunio'r adeilad, a fydd yn cwrdd â gofynion lluoedd wrth gefn y DU dros y 50 mlynedd nesaf.
Mae'r tir sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y datblygiad ym Mae Caerdydd hefyd yn rhoi mynediad i'r dociau, ble gall llongau rhyfel sy'n ymweld â'r ardal angori.
Byddai tair o unedau'r llynges yn rhannu'r cyfleusterau ar y safle, Uned RNR HMS Cambria, Uned Môr-filwyr wrth-gefn Caerdydd, ac URNU Cymru.
Mae disgwyl y bydd y contractwr yn dechrau ar y gwaith ym mis Gorffennaf eleni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2016