Sŵ Borth: Gwrandawiad apêl yn nodi camau nesaf yr achos

  • Cyhoeddwyd
Blodau tu allan i'r sŵ
Disgrifiad o’r llun,

Blodau y tu allan i'r sŵ wedi marwolaeth Lilleth y lyncs

Mae gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Aberystwyth wedi nodi camau nesaf apêl gan berchnogion sŵ yng Ngheredigion yn erbyn gwaharddiad sy'n eu hatal rhag cadw rhai anifeiliaid peryglus.

Daeth y gwaharddiad i rym wedi i ddau lyncs farw o fewn dyddiau i'w gilydd yng nghanolfan Wild Animal Kingdom yn Borth.

Mae'r sŵ ar gau ers y marwolaethau ym mis Tachwedd.

Bydd disgwyl i dystion gyflwyno datganiadau erbyn 9 Mawrth, a bydd yna adolygiad ar 22 Mawrth cyn cychwyn yr achos ei hun, a fydd o bosib ar 27 Ebrill.

Fe gafodd y gwrandawiad ei gynnal ddydd Gwener ar ôl i'r perchnogion gyflwyno apêl ym mis Rhagfyr.

Ffynhonnell y llun, Sw borth
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lilleth ei gweld nifer o weithiau wedi iddi ddianc

Cafodd y gwaharddiad ei orfodi wedi i un gath wyllt, Lilleth, orfod gael ei difa wedi iddi ddianc o'r ganolfan.

Bu farw ail lyncs , Nilly, wedi iddi gael ei mygu wrth gael ei chludo o un warchodfa i'r llall

Roedd y sŵ wedi bwriadu ailagor ddechrau Rhagfyr ond ni ddigwyddodd hynny gan i'r ganolfan fethu â chael trwydded ddrylliau gan Heddlu Dyfed-Powys.

Mae'r gwaharddiad yn atal cadw anifeiliaid "categori un" sy'n cynnwys cathod gwyllt, llewod, nadroedd a mwncïod mawr.

Dywedodd y perchnogion ddiwedd y llynedd eu bod yn gobeithio "cydweithio'n agos gyda Chyngor Ceredigion yn y flwyddyn newydd i ddatrys unrhyw faterion ac ailagor y sŵ i'r cyhoedd".