Sw Borth yn apelio yn erbyn gwaharddiad

  • Cyhoeddwyd
Flowers in tribute to Lilleth the lynx
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd blodau eu gadael y tu allan i'r sw wedi marwolaeth Lilleth y lyncs

Mae sw, lle bu dau lyncs farw o fewn diwrnodau i'w gilydd, yn apelio yn erbyn y gwaharddiad sy'n ei hatal rhag cadw rhai anifeiliaid peryglus.

Mae canolfan Wild Animal Kingdom Borth yng Ngheredigion wedi cyflwyno apêl ger bron ynadon Canolfan Gyfiawnder Aberystwyth.

Cafodd y gwaharddiad ei orfodi wedi i un gath wyllt orfod gael ei difa wedi iddi ddianc o'r ganolfan ac fe fu farw un arall wedi iddi gael ei mygu wrth gael ei chludo o un warchodfa i'r llall.

Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud ei fod yn ymwybodol o'r apêl.

Mae'r sw wedi bod ar gau ers i Lilleth ddianc ac yn ddiweddarach fe gafodd y gath wyllt ei difa gan swyddog arbenigol wedi iddi groesi i ardal mwy poblog o'r gymuned.

Roedd y sw wedi cynllunio i ailagor ar Ragfyr 1 ond ddigwyddodd hynny ddim gan i'r ganolfan fethu â chael trwydded ddrylliau gan heddlu Dyfed-Powys.

Mae'r gwaharddiad yn atal cadw anifeiliaid "categori un" sy'n cynnwys cathod gwyllt, llewod, nadroedd a mwncïod mawr.

Ddydd Gwener dywedodd un o berchnogion y sw, Dean Tweedy, bod yr apêl yn ymwneud â rhai anifeiliaid. Mae'r perchnogion, er enghraifft, am gadw y ddau lew sydd ganddynt ac maent yn credu eu bod yn rhy hen i symud.

Ffynhonnell y llun, Sw borth
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lilleth ei gweld nifer o weithiau wedi iddi ddianc

Disgrifiad o’r llun,

Fe brynodd Dean a Tracy Tweedy y sw am £625,000

Dywedodd: "Mae'r llewod yn y lle gorau posib iddyn nhw. Maent mewn lle sydd wedi ei godi yn arbennig iddyn nhw ddwy flynedd yn ôl.

"Daeth y llewod yma am nad oedd lle arall iddyn nhw fynd a dyma eu cyfle olaf.

"Ry'n ni ond yma ers mis Mehefin ac mae rhai o'r gwendidau sydd wedi'u nodi yma ers blynyddoedd.

"Ry'n wedi cyflwyno systemau drysau dwbl a nifer o fesurau diogelwch - yr holl bethau sy'n ofynnol.

"Mae nifer o bobl am i ni agor eto a mae nifer wedi bod yn ffonio yn gofyn a allant ddod draw i'n gweld.

"Fe fyddai'n neis cael y sw yn weithredol eto a chael pobl yn crwydro o gwmpas."

Mae'r cyngor wedi cadarnhau bod apêl wedi'i chyflwyno yn erbyn y gwaharddiad a osodwyd ar y sw.