Gwaredu tâl am gofrestru marwolaeth plant yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
claddu

Mae Cyngor Ceredigion wedi penderfynu cael gwared â'r tâl am gofrestru marwolaeth plant.

Yn ystod cyfarfod o'r cabinet ddechrau'r wythnos penderfynwyd na fydd yn rhaid talu ffi am gofrestru marwolaeth ar sail tosturi.

Penderfynwyd y bydd y tâl yn cael ei hepgor i bobl sy'n cofrestru marw-enedigaethau, marwolaeth plentyn hyd at 18 oed a genedigaeth a marwolaeth baban ar yr un pryd (pan ganed y baban yn fyw ond marw cyn cofrestru'r enedigaeth).

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Corfforaethol, y Cynghorydd Ray Quant MBE: "Mae cofrestru marwolaeth plentyn wastad yn brofiad torcalonnus, ac mae rhaid talu hyd yn oed swm bach yn faich ychwanegol diangen.

"Mae'n hollol gyfiawn bod y Cyngor yn hawlildio'r ffi."

Argymhelliad y Llywodraeth

Fis Tachwedd cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi dod i gytundeb i ddileu ffioedd claddu ac amlosgi ar gyfer plant yng Nghymru.

Roedd y cytundeb yn amlinellu'r egwyddor fod cynghorau Cymru yn rhoi'r gorau i godi tâl am gladdu plant ar draws y wlad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo darparu cyllid o £1.5 miliwn hyd at 2020, er mwyn cefnogi'r cynllun, ac fe fydd y cyllid hwn hefyd ar gael i ddarparwyr mynwentydd ac amlosgfeydd yng Nghymru, sy'n cytuno i beidio â chodi tâl dan yr amgylchiadau hyn.