Prynu adeilad yng Nghaernarfon er mwyn ei droi yn westy

  • Cyhoeddwyd
Llety Arall
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwaith nawr yn cychwyn i glirio'r adeilad a'i drawsnewid yn llety i bobl aros

Mae menter gymunedol yng Nghaernarfon wedi cyrraedd y nod ariannol er mwyn gallu prynu hen adeilad i'w droi yn westy ar Stryd y Plas.

Erbyn hyn mae dros £142,000 wedi ei godi a phobl wedi bod yn gallu prynu cyfranddaliadau yn y gymdeithas.

Mae'r morgais hefyd yn ei le a nawdd o £128,000 wedi ei rhoi gan Lywodraeth Cymru.

'Rhyddhad'

Yn ôl Menna Machreth, ysgrifennydd menter Llety Arall, mae'r newyddion yn "tipyn o ryddhad".

"Mae'n teimlo fel sawl blwyddyn bellach ers i ni ddechrau'r fenter yma ond mae'n grêt bod popeth wedi dod at ei gilydd nawr," meddai ar raglen y Post Cyntaf.

Gweledigaeth y bwrdd rheoli yw cynnig rhywle i aros i rai sy'n ymweld â'r dref.

Ffynhonnell y llun, Llety Arall
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw agor tair ystafell aros ddiwedd Ebrill

Ond fe fydd "agwedd arall" i'r gwesty hwn o'i gymharu gyda gwestai eraill, meddai.

"Byddan ni'n gallu cyfeirio pobl at ffyrdd lle maen nhw yn gallu dysgu mwy am ddiwylliant ac iaith y dre' yn benodol.

"Ac fe fyddwn ni yn annog pobl i ymarfer eu Cymraeg, i ddefnyddio eu Cymraeg o gwmpas y dre', fel eu bod nhw yn gallu cael y profiad o'r Caernarfon Cymraeg go iawn."

Adeilad aml bwrpas

Bydd y rhai sydd wedi prynu cyfranddaliadau yn aelodau o'r fenter ac yn cael pleidlais yn y cyfarfod cyffredinol.

Ond mae Menna Machreth yn gobeithio y byddan nhw hefyd yn helpu i "ledaenu'r gair" am y fenter ac yn gallu helpu gyda phethau ymarferol fel clirio'r adeilad yn yr wythnosau nesaf.

"Y cam nesaf fydd agor yr ystafelloedd a bydd tair ystafell gobeithio yn barod erbyn diwedd Ebrill, dechrau Mai. Dyna'r cam nesaf, i gael pobl i aros yna."

Saith ystafell i bobl aros ynddyn nhw fydd yn bodoli yn Llety Arall, gyda siop hefyd yn cael ei rhentu i fusnes lleol ar y llawr gwaelod a stafell arall i'r gymuned.

"Ni'n gobeithio bydd 'na lawer o bethau gwahanol yn digwydd, ond hefyd yn ryw fath o hyb ar gyfer pobl fydd yn ymweld â Chaernarfon ac yn enwedig pobl sydd eisiau gwybod mwy am y Gymraeg ac yn dysgu'r Gymraeg."

Gwirfoddolwyr fydd yn rhedeg y lle i ddechrau, ond y bwriad yw bod hyn yn newid yn y dyfodol.

"Y nod sydd gyda ni yn y cynllun busnes yw cyflogi pobl yn y ddwy flynedd, tair blynedd nesaf. Mae hwn yn beth da i'r dref hefyd."