£10,000 o ddirwyon i berchnogion cŵn am dorri rheolau

  • Cyhoeddwyd
ciFfynhonnell y llun, Alamy

Mae dros 100 o ddirwyon gwerth cyfanswm o £10,000 wedi eu rhoi i berchnogion cŵn "anghyfrifol" yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r dirwyon wedi eu cyflwyno ers i reolau newydd ddod i rym bedwar mis yn ôl.

Ers mis Hydref 2017, mae 103 o hysbysiadau cosb wedi eu rhoi am droseddau, gan gynnwys peidio cario bagiau glanhau ysgarthion.

Mae'r rheolau newydd hefyd yn gwahardd cŵn o rai ardaloedd.

Dywedodd y cyngor y buasai pobl wedi gallu osgoi'r dirwyon pe bai nhw wedi cadw at y rheolau.

Patrolio

Mae'r cyngor wedi cadarnhau fod timau wedi bod yn patrolio ardaloedd er mwyn mynd i'r afael â'r broblem o faw cŵn.

Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) yn gorfodi perchnogion cŵn i:

  • Lanhau llanast eu cŵn yn syth a gwaredu'r ysgarthion yn iawn;

  • Cario bagiau ysgarthion bob amser;

  • Sicrhau fod ci ar dennyn wrth gael cais gan swyddog awdurdodedig;

  • Peidio mynd â chŵn ar dir ysgol, mannau chwarae plant a chaeau chwaraeon sy'n eiddo i'r cyngor;

  • Cadw cŵn ar dennyn ym mynwentydd y cyngor.

Dywedodd Nigel Wheeler, cyfarwyddwr gwasanaethau priffyrdd a gofal stryd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae dirwyon gwerth cyfanswm o dros £10,000 wedi eu cyflwyno hyd yn hyn i bobl sy'n torri'r rheolau baw cŵn newydd - dirwyon hawdd i'w hosgoi pe bai pobl ond wedi bod yn gyfrifol.

"Mae'r swm yma'n dangos ein bod yn parhau i wneud safiad cadarn ar y mater hwn, a bydd y cyngor hefyd yn gosod dwsinau yn rhagor o finiau baw cŵn eleni er mwyn annog perchnogion cŵn i gymryd cyfrifoldeb."