Morfudd Hughes sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma

  • Cyhoeddwyd
Morfudd HughesFfynhonnell y llun, Regan Management

Yr actores Morfudd Hughes sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan Tweli Griffiths wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Un o fy atgofion cynharaf, os nad y cyntaf un, ydi cael fy neffro yn ystod oriau mân y bora i fynd ar daith yn y car hefo fy mam a nhad a'm mrawd i Stoke-on-Trent!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Ynghyd â David Essex, ro'n i'n ffansio hogyn o'r enw Derwyn. Ro'dd o'n ffrind i'm mrawd ac yn goblyn o bêl-droediwr da.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi'n cofio pan o'n i'n fach, dwyn bisgedan Jacob's Club oren o siop y pentra' - a chal copsan gin mam. Mam wedyn yn deud wrth Mr Parry'r perchennog. Nesh i mohono fo eto!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Llynedd, gryn dipyn. Mi wnes i golli llawer o anwyliaid.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi braidd yn funud ola' hefo gwaith papur ac ati, yn enwedig cael trefn ar fy nghyfrifon.

Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na lawer o lefydd hyfryd ar hyd arfordir Ynys Môn

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mi fues i yn crwydro arfordir Môn llynedd. Mai'n anodd dewis fy hoff ran ohoni gan fod bob un yn gwbl odidog, waeth be' fo'r tywydd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fel mae'n digwydd, dydi hi ddim yn noson fyddwn i'n dymuno rhannu gormod amdani hefo neb arall. Llydaw y llynedd, mewn caban pren tlws, fry uwchben mewn coedwig anghysbell. Roedd o'n rhan o aduniad ar ôl dros 30 o flynyddoedd o fod ar wahân, hefo nghariad. Dwi 'di deud lot gormod rŵan!

line

O Archif Ateb y Galw:

line

Disgrifia dy hun mewn tri gair

'Nai adal hynny i bobol erill.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Ma' gin i sawl hoff ffilm ar fy rhestr sy'n newid yn achlysurol, ac mae Stand by me wastad arni.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Elvis, gan obeithio y bydda fo'n canu Love me tender cyn ddiwadd y noson.

Elvis
Disgrifiad o’r llun,

Siŵr gallai Morfudd ddwyn perswâd ar Elvis i ganu iddi!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod

Mi ges i f'arestio ar un o brif strydoedd Moscow ym mis Mai 1992.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Nôl yn y caban coed hwnnw nes i siarad amdano'n gynharach... hefo'r un person wrth gwrs.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Dŵr gan Huw Jones. Atgofion hyfryd o deithio yn y car hefo fy mab Llion pan oedd o'n fengach. Ein ffefryn oedd hwnnw. Y ddau ohona ni'n morio canu a phob yn ail cael cogio bach bod yn Huw a Heather! Ooooo gwych!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Rwbath go syml i ddechra, olifau neu gaws gafr. Pysgodyn fel prif gwrs ac yna darn o unrhyw un o bwdinau anfarwol fy chwaer-yng-nghyfraith.

Dalai Lama
Disgrifiad o’r llun,

Fydd Morfudd yn cael bod Y Dalai Lama ar ôl cael ei harestio ym Moscow?!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Tenzin Gyatso, Y Dalai Lama.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Bryn Fôn