Tweli Griffiths sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma

  • Cyhoeddwyd
Tweli Griffiths

Y newyddiadurwr Tweli Griffiths sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Gwilym Owen wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Llenwi nghlwt!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Julie Christie

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Methu fy mhrawf gyrru cynta', a methu deall pam, wrth i 'nghyfoedion i gyd basio'n syth!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Weithiau'n crïo'n annisgwyl wrth i emosiynau sy'n loitran yn y meddwl ddod i'r wyneb yn sydyn.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Ysmygu a dim digon o ymarfer corff.

Disgrifiad o’r llun,

Llyn Clywedog - lle da i bysgota, yn ôl y sôn!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llyn Clywedog. Mae'r pysgota'n wych a'r golygfeydd yn anhygoel.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Cyngerdd Roy Orbison yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd, ddim yn hir iawn cyn iddo farw.

O Archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Styfnig, anturus, dirgel.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Ffilm - Dr. Zhivago. Dwi'n ffan mawr o'r cyfarwyddwr David Lean. Ail agos fase'r Jungle Book gwreiddiol achos dwi'n dwli ar Baloo!

Disgrifiad o’r llun,

Ydy Tweli yn gweld ei hun yng nghymeriad Baloo, anturus?

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Dywel ab Erbyn. Mae'n bosib mai dyna darddiad yr enw Tweli, ac mae sôn am Dywel fel aelod o Lys y Brenin Arthur. Dw'i ishe mwy o hanes y boi yma!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod

Dwi'n credu mewn grym gweddi.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Pendroni am yr holl bethau wnes i ddim eu gwneud yn fy mywyd.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Yn Dy Feddwl Di gan Tony ac Aloma. Un o'r caneuon fwyaf teimladwy i mi ei chlywed erioed.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddeuawd o Fôn, Tony ac Aloma, wedi bod yn diddanu Cymru ers yr 1960au

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Prawn cocktail, hwyaden wedi ei choginio mewn mêl, cacen Baklava.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

David Blaine, un o'r consurwyr gorau yn y byd.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Morfudd Hughes