Cyhuddo Carwyn Jones o 'gamarwain' y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Adam Price a Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna weiddi ar draws y siambr a bu'n rhaid i'r Llywydd alw am dawelwch sawl gwaith

Mae Plaid Cymru wedi dweud y byddan nhw yn cymryd cyngor cyfreithiol gan honni fod y Prif Weinidog wedi torri rheolau gwarchod data a "chamarwain" y Cynulliad.

Fe fydd yr Aelod Cynulliad Adam Price hefyd yn ysgrifennu at Carwyn Jones gan ofyn am "ymddiheuriad llawn".

Daw i sylwadau Mr Price ar ôl iddo gyhuddo'r Prif Weinidog o ymddwyn fel "Rwsia Putin" ar ôl i Carwyn Jones ddatgelu gwybodaeth fod penaethiaid bwrdd iechyd wedi ceisio trefnu cyfarfod gyda'r AC o Blaid Cymru.

Mae llefarydd ar ran y Prif Weinidog yn dweud nad oedd "gwybodaeth sensitif neu warchodedig wedi ei rhannu na'i ollwng, a doedd dim cais amdani chwaith."

Roedd Adam Price wedi gofyn cwestiwn yn y siambr brynhawn dydd Mawrth ynglŷn â chynlluniau gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda i ad-drefnu gwasanaethau ysbytai yng ngorllewin Cymru.

Ond fe gyhoeddodd Mr Jones rhestr o ddyddiadau pan oedd y bwrdd iechyd wedi ceisio cysylltu â Mr Price.

'Gwarthus'

Yn ôl AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr roedd wedi gofyn am gyfarfod gyda phrif weithredwr Hywel Dda ac "felly y gwrthwyneb oedd yn wir".

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf fore Mercher dywedodd Mr Price nad oedd gweithredodd y Prif Weinidog yn dderbyniol.

"Mae'n warthus o beth lle mae llywodraeth yn defnyddio gwybodaeth breintiedig sydd ganddyn nhw er mwyn ymosod ar aelodau'r wrthblaid. Mae hynny yn anfoesol dw i'n credu," meddai.

"Mae'n sicr yn cael gwared â'r ymddiriedaeth sydd angen rhwng bwrdd iechyd ac aelodau lleol ac mae'n gwestiwn gen i a yw e'n anghyfreithlon am ei fod yn datgelu mewn ffordd sydd ddim yn dderbyniol."

Disgrifiad,

Ar raglen y Post Cyntaf fe honnodd Adam Price fod y Prif Weinidog wedi bod yn "gamarweiniol"

Cais 'rhesymol'

Yn ôl llefarydd ar ran y Prif Weinidog doedd dim "gwybodaeth sensitif neu warchodedig" wedi ei rhyddhau.

"Mewn ymateb i feirniadaeth gyhoeddus gan Mr Price mae'r bwrdd iechyd lleol, fel y dylen nhw, wedi rhoi gwybod nad yw wedi ymateb i'r un o'u gwahoddiadau i drafod y mater.

"Mae hyn yn rhagrith llwyr, ac mae dicter Mr Price yn deillio'n llwyr o'r ffaith fod y rhagrith yma wedi cael ei amlygu," ychwanegodd y llefarydd.

Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ei bod wedi derbyn cais i rannu gwybodaeth am ohebiaeth gyda gwleidyddion lleol ynglŷn â chynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau lleol.

Roedd y cais yn "rhesymol dan yr amgylchiadau" meddai'r llefarydd.

"Ni ryddhawyd cynnwys unrhyw drafodaethau."