Beth yw'r gair Cymraeg am 'bobsleigh'?
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffaith fod Cymraes wedi ei dewis i gystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn newyddion da.
Ond prin yw'r cyfle yng Nghymru i roi cynnig ar y gamp y bydd Mica Moore yn cynrycholi Prydain ynddi yn Ne Corea ac fe achosodd gur pen i Cymru Fyw wrth geisio darganfod gair Cymraeg amdani.
Beth yw bobsleigh yn Gymraeg? A beth yw'r ferf, bobsleighing?
Doedd dim golwg mewn nifer o eiriaduron ar-lein.
Dim yn y Termiadur Addysg:, dolen allanol
Dim ar wefan y Llywodraeth, Byd Term Cymru, dolen allanol:
A dim golwg am chwaith yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, dolen allanol, y Coleg Cymraeg, dolen allanol na Geiriadur Bangor, dolen allanol.
Fe ofynnon ni am eich help ac fe gawson ni awgrymiadau creadigol.
"Chwimsled" gan Islwyn Jones, "chwimgwch" gan Bethan Eirian Jones, "sboncled" meddai Ian Perryman ac "yslêdbob" awgrymodd Rhŷn Williams.
Dywedodd David James mai "sledj-ia" ydy'r term yng Nghaernarfon, beth am "sgwdsled" cynigiodd Bethan Griffiths a "roced rhew" oedd cynnig dramatig Jane Harries.
"Bobsled" yw'r term mae adran chwaraeon Radio Cymru yn ei ddefnyddio ond dydi hwn "ddim yn gynnig gwych dwi'n cyfaddef" meddai'r gohebydd chwaraeon Cennydd Davies.
Ond mae'n debyg eu bod nhw'n iawn wedi'r cyfan.
Fe gawson ni synnwyr gan Ffion Wynne o Gonwy a eglurodd ein bod wedi bod yn edrych yn y llefydd anghywir: "Os edrychwch dan 'bob' [ac nid bobsleigh] yng Ngeiriadur yr Academi, dolen allanol fe welwch chi bobsled a sled rasio am bob-sleigh, a bobsledio a rasio slediau ar gyfer y weithred."
Ar Twitter fe wnaeth Busnes Da dynnu ein sylw hefyd, dolen allanol at lle i gael hyd i'r term:
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ond mae defnyddwyr Cymru Fyw yn amlwg yn hoffi chwarae gyda geiriau. Cafwyd sawl cynnig arall llawn dychymyg dros ebost a'r cyfryngau cymdeithasol:
"Sgefrgwch" gan Rhydian Davies
"Sglefboncyrs?" gan Siarl Siviyer Dixon.
"Carllysg" gan Lois Shaw-Evans.
"Sigl-sled a sigl-sledio" gan Melanie Davies.
"Sgledryn" gan Eleri Surrey.
"Ceitgart" gan Steff Marc Rees.
"Gwîbarch" gan Carwen.
"Sledwib" gan Tiwtor Ann.
"Sgledgwch" gan Brad Jones.
"Sglefbod" gan Howard Hughes.
Ond "mae bobsled a bobsledio yn iawn" meddai Sharon Larkin a Nesta Lewis hefyd yn dweud ei bod hithau'n ffafrio'r term sydd yn Ngeiriadur yr Academi yn barod.
Diolch i chi i gyd am eich cynigion difyr!
A phob lwc i Mica ar ei bobsled - neu ei 'roced rhew' - yn Ne Corea.