Dafydd Elis-Thomas yn gwrthod her i alw isetholiad

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dafydd Elis-Thomas yn gwrthod her Liz Saville Roberts i alw isetholiad

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Elis-Thomas wedi dweud nad oes ganddo fwriad o alw isetholiad er ei fod bellach wedi ymuno â Llywodraeth Lafur Cymru.

Cafodd yr Arglwydd Elis-Thomas ei ailethol fel AC Plaid dros Ddwyfor Meirionnydd yn etholiadau'r Cynulliad ym Mai 2016.

Ond bum mis yn ddiweddarach fe adawodd y blaid wedi iddo anghytuno sawl gwaith â'r arweinydd Leanne Wood.

Ers Tachwedd 2017 mae wedi bod yn Weinidog Diwylliant yn Llywodraeth Cymru.

'Y fraint fwyaf'

Nos Iau fe wnaeth Liz Saville Roberts, sy'n cynrychioli Plaid Cymru yn yr un etholaeth yn San Steffan, ei herio i alw isetholiad.

"Os ga'i siarad yn blaen, petai gan Dafydd Elis-Thomas owns o barch tuag at ei etholwyr a thuag at y bobl sydd wedi'i gefnogi fo ers degawdau, fe fyddai o wedi sefyll lawr," meddai.

Roedd y ddau wleidydd wedi ymddangos ar raglen Pawb a'i Farn ar S4C, oedd yn cael ei darlledu o Benrhyndeudraeth yn yr etholaeth.

Mewn ymateb dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: "Dydw i ddim wedi newid fy nghôt. Rydw i'n parhau i fod yn genedlaetholwr diwylliedig.

"Y ddadl oedd gen i oedd gydag arweinyddiaeth a strategaeth grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad, yn gwrthod cydweithio i greu llywodraeth ddiogel ar gyfer Cymru."

Ychwanegodd: "Mae pob peth addewais i i etholwyr Dwyfor Meirionnydd yn cael ei weithredu.

"Dwi wedi cael y fraint ers mis Tachwedd i fod yn weinidog yn Llywodraeth Cymru. Dyma'r fraint fwyaf dwi wedi'i gael yn fy mywyd, ac mi fyddai'n parhau i gynrychioli'r etholaeth yma hyd y bydd fy iechyd yn caniatáu."