Car heb deiar yn cael ei yrru ar y ffordd yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud eu bod wedi dod o hyd i gerbyd oedd yn cael ei yrru ar y ffordd gyda theiar ar goll.
Doedd gan y Peugeot gwyn, oedd wedi'i gofrestru yn 2001, ddim teiar ar olwyn flaen y car ar ochr y gyrrwr, gyda darn o banel hefyd ar goll a gwifrau'n rhydd.
Dywedodd yr heddlu nad oedd y car wedi'i yswirio, a bod y drwydded MOT wedi dod i ben ym mis Gorffennaf 2016.
Mewn neges Twitter dywedodd Uned Blismona Ffyrdd Sir Benfro fod y gyrrwr, oedd wedi pasio'r prawf gyrru ym mis Tachwedd llynedd, wedi cael eu hysbysu am yrru cerbyd mewn cyflwr peryglus.
