Trafod cyflwyno ffioedd parcio i athrawon yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Townhill yn AbertaweFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

A fydd athrawon yn Abertawe yn gorfod talu i barcio ar dir yr ysgol yn y dyfodol?

Mae Cyngor Abertawe yn ymgynghori ar gyflwyno ffioedd parcio ar gyfer athrawon.

Byddai pob ysgol yn cael penderfynu cyflwyno'r ffioedd ai peidio, a byddai hynny'n cynyddu yn dibynnu ar gyflog yr aelod staff.

Fe fyddai unrhyw arian fyddai'n cael ei godi yn mynd tuag at gyllideb yr ysgol.

Ond mae undebau athrawon wedi gwrthwynebu'r cynlluniau, gan ddweud y byddai'n cael effaith anfanteisiol ar eu haelodau.

Ychwanegodd yr undebau fodd bynnag fod y cynnig yn dangos pa mor dynn oedd cyllidebau ysgolion ar hyn o bryd.

Dywedodd y cyngor mai'r bwriad oedd codi arian ychwanegol ar gyfer yr ysgolion hynny.

Mae gweithwyr y cyngor yn y Guildhall a'r Ganolfan Ddinesig eisoes yn talu i barcio yno, dan system debyg.

Byddai'r newidiadau yn dod i rym o 1 Ebrill os ydyn nhw'n cael eu cymeradwyo.

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Dinas Abertawe: "Mae'r arian rydym yn derbyn o'r llywodraeth wedi cael ei dorri mewn termau real ac mae'n rhaid i ni ganfod mwy na £20m o arbedion y flwyddyn nesaf ac felly'n wynebu penderfyniadau anodd.

"Mae'r cynnig yn dweud yn glir y byddai'r arian sy'n cael ei godi yn cael ei gadw gan yr ysgolion unigol, ac y byddai unrhyw daliadau yn dibynnu ar incwm er mwyn gofalu ar bobl ar incwm llai.

"Does dim penderfyniad wedi ei wneud."

'Cwbl annerbyniol'

Ond mae un undeb athrawon wedi ymateb yn chwyrn i'r cynnig. Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC:

"Mae UCAC yn brawychu at y cynnig hwn gan Gyngor Abertawe ac yn gwrthwynebu'n chwyrn. Mae'n awgrymu 'desperation' llwyr ar ran y Cyngor.

"Mi fyddai cyflwyno ffioedd parcio ar weithlu sector cyhoeddus sydd wedi gweld rhewi neu gapio'u cyflogau ers saith mlynedd bellach, yn gwbl annerbyniol.

"Ar lefel ymarferol, mae athrawon yn cario llwythi trwm iawn o lyfrau bob dydd sy'n gwneud teithio ar gludiant cyhoeddus yn eithriadol o anodd.

"Rydym yn poeni hefyd y gallai hyn ychwanegu at lwyth gwaith penaethiaid os oes disgwyl iddyn nhw gasglu taliadau a dosbarthu trwyddedau.

"Mae'r cynigion yn gwbl aneglur, ac nid oes unrhyw fath o ymgynghori wedi bod arnynt - o feddwl y gallant gael eu cyflwyno o fis Ebrill ymlaen.

"Galwn ar Gyngor Abertawe i dynnu'r cynigion afresymol hyn yn ôl ar unwaith er mwyn tawelu'r dyfroedd ac osgoi colli ewyllys da y gweithlu cyfan."