Adroddiad Brexit: 'Ffermwyr bîff a defaid i ddioddef'

  • Cyhoeddwyd
Sheep with new-born lamb

Ffermwyr bîff a defaid y gogledd a'r gorllewin sy'n debygol o ddioddef waethaf yn sgil Brexit, yn ôl astudiaeth gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

Mae'r adroddiad, dolen allanol yn dweud bod ffermwyr llaeth a ffermydd sy'n tyfu llysiau a chnydau yn fwy tebygol o elwa.

Ond nid yw'r astudiaeth yn gweld dyfodol llewyrchus i ffermwyr defaid yn benodol wedi Brexit.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn felin drafod sy'n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Prif neges yr adroddiad yw bod angen polisïau gwahanol i ardaloedd a sectorau gwahanol, ac na fydd un polisi i Gymru gyfan yn gweithio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad ac yn dweud eu bod yn datblygu cynlluniau i baratoi busnesau.

'Angen pecyn cymorth gwahanol'

Dywedodd Mair Bell sy'n llefarydd ar ran Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru: "Mae gan ardaloedd o Gymru ddiwydiant amaethyddol gwahanol felly bydd angen pecyn cymorth amrywiol.

"Mae'r ffermydd yn y gogledd a'r gorllewin, gan amlaf, yn ffermydd defaid a chig eidion... ond yn y de a'r dwyrain mae mwy o ffermydd cymysg a mwy o rai sy'n cynhyrchu llaeth.

"Mae angen, felly, i'r pecyn cymorth fod yn wahanol... [rhaid iddo] gefnogi ffermwyr i arallgyfeirio, i addasu i weithio mewn ffyrdd sydd yn fwy addas i ffactorau modern a rhaid iddo hefyd helpu pobl ifanc ddod fewn i'r diwydiant."

Disgrifiad,

Mae'n bwysig i ffermwyr gael pecyn cymorth sy'n cynnig amrywiol opsiynau, meddai Mair Bell ar ran Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Mae disgwyl i'r galw am gig coch o Gymru gan wledydd yr UE ostwng yn sylweddol wedi Brexit.

Mae'r adroddiad yn ategu bod angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid tebyg i archfarchnadoedd er mwyn sichrau marchnadoedd newydd ar gyfer bwyd o Gymru.

Mae Edward Jones, darlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Bangor, yn cytuno â neges yr adroddiad.

Dywedodd: "Rydan ni'n gwybod bod gwahanol sectorau o'r diwydiant amaeth yma'n Nghymru 'efo gofynion gwahanol ac ma' nhw i gyd yn wynebu heriau gwahanol hefyd...

"Felly mae angen cael polisïau sy'n ymateb i'r gwahaniaethau yma i gyd."

'Cyfle i gyflwyno polisi newydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yna groeso i'r adroddiad gan ei fod yn pwysleisio effaith posib Brexit ar fywydau pobl.

Ychwanegodd: "Ond mae Brexit hefyd yn gyfle i gyflwyno fframweithiau polisi newydd a fydd yn cynorthwyo ffermwyr i addasu a ffynnu.

"Ry'n yn cydnabod y [bydd y newidiadau a ddaw yn sgil Brexit] yn cael effaith ar fusnesau mewn amrywiol ffyrdd ac yn cytuno mai'r ffordd orau ymlaen yw trin busnesau ar wahân."

Dywedodd hefyd bod cynlluniau eisoes ar y gweill i gefnogi busnesau ar gyfer y newid: "Ry'n yn parhau i ddweud wrth Lywodraeth y DU bod angen cyfnod trawsnewid a fydd yn para sawl blwyddyn a hynny er mwyn galluogi pob busnes i baratoi ac i gael eglurder ar faint o gyllid y bydd Cymru yn ei dderbyn wedi Brexit."