Uned gofal newydd i fabanod y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae uned sydd yn cynnig gofal dwys wedi ei hagor i fabanod cyn eu hamser a rhai sâl yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
Mae'r uned - Canolfan Gofal Dwys Newydd-anedig Is-ranbarthol (SuRNICC) - wedi costio £18m.
Fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod y ganolfan yn adnodd modern gyda'r offer a thechnoleg ddiweddaraf.
Er bod y ganolfan bellach yn derbyn cleifion mae peth gwaith - i uno'r hen uned gyda'r adeilad newydd - eto i'w gwblhau, ond fe fydd wedi'i orffen yn ddiweddarach eleni.
Protestiadau
Fe gafodd cynnig dadleuol i israddio gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd eu gwrthod dair blynedd yn ôl wedi protestiadau, ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru addo mwy na £16m tuag at ganolfan newydd.
Yn rhan o SuRNICC mae uned ddibyniaeth uchel, uned gofal dwys ac - am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru - uned arwahanu.
Hefyd mae llety ar gael er mwyn i rieni fedru aros yn agos at eu babanod.
Nyrs yn yr uned yw Caren Radcliffe ac mae'n dweud bod yr uned yn "bwysig iawn i ogledd Cymru".
"Da ni erioed wedi cael lle fel hyn o'r blaen," meddai.
Mae'n dweud bod y gweithwyr yn croesawu'r uned newydd a'r adnoddau fydd ar gael iddyn nhw.
"Mae'r staff i gyd, da ni i gyd yn edrych ymlaen i symud fewn i'r uned," ychwanegodd.
"'Da ni erioed wedi cael uned fel hyn o'r blaen. Fedrwn ni ddim disgwyl dod i mewn ac edrych ar ôl y babis yma."
'Staff gwych'
Mae Hannah Bower, 19 oed o Ruddlan, wedi bod yn aros yn yr uned ers i'w merch Nevaeh gael ei geni bum wythnos yn gynnar.
"Mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel, ac mae'r staff wedi bod yn wych. Mae'n dawelwch meddwl mawr i ni," meddai.
"Cyn hyn, roedd rhai pobl yn gorfod teithio'n bell am y driniaeth ry'n ni'n ei gael yma nawr, ac rwy'n teimlo'n ffodus iawn i fyw mor agos."
Dywedodd Charlotte Boddie o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Ry'n ni wastad wedi bod yn falch o'r gofal sy'n cael ei roi yng ngogledd Cymru... roedd e wastad yn wych i'r babanod.
"Ond mae cael yr adnoddau yma wedi caniatau i ni fynd â hynny i'r lefel nesaf."