Rhybudd i yrrwr tacsi wedi ffrae gyda chwsmer anabl

  • Cyhoeddwyd
Tacsi

Mae gyrrwr tacsi o Gaerdydd wedi cael rhybudd ysgrifenedig a gorchymyn i gael hyfforddiant oherwydd ei ymddygiad tuag at gwsmer ag anabledd.

Clywodd gwrandawiad fod Sajid Jehangir wedi defnyddio iaith anweddus tuag at Glyn Furnival Jones ar ôl iddo fethu a diogelu ei gadair olwyn rhag symud.

Cafodd y ddadl saith munud o hyd gyda'r gyrrwr ei recordio ar ffôn symudol Mr Jones.

Roedd o'n rhybuddio'r gyrrwr nad oedd ei gadair olwyn wedi ei osod yn ddiogel, a'i fod yn taro ei ben yn erbyn y ffenest wrth i'r car gael ei yrru.

Ar ôl iddo stopio i geisio diogelu'r gadair, roedd y gyrrwr i'w glywed yn dweud wrth Mr Jones, sydd â pharlys ymledol, i beidio â "rhoi amser caled iddo" ac yna yn ei ddisgrifio mewn modd oedd yn ei iselhau.

Galw am hyfforddiant

Dywedodd Sajid Jehangir fod ei gar yn un newydd ac wedi ei addasu yn arbennig ac nad oedd wedi cael hyfforddiant ynglŷn â'i ddefnyddio.

Mewn llythyr at is-bwyllgor Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Caerdydd ymddiheurodd am yr iaith a ddefnyddiodd.

Dywedodd Mr Furnival Jones ei fod yn derbyn yr ymddiheuriad.

Ychwanegodd fod yr achos yn dangos y problemau sy'n wynebu pobl ag anabledd wrth ddefnyddio tacsis.

"Rwy'n siomedig gyda'r Cyngor am beidio gwneud digon i sicrhau fod gyrwyr yn gorfod cael hyfforddiant," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Glyn Furnival-Jones ffilmio'r sgwrs ar ei ffôn symudol

Dywedodd nad oedd am i Mr Jehangir gael ei gosbi'n ormodol oherwydd gallai hyn olygu na fyddai gyrwyr tacsi yn y dyfodol yn awyddus i stopio ar gyfer pobl ag anabledd.

Dywedodd llefarydd ar ran Gyngor Caerdydd mai cyfrifoldeb y gyrrwr tacsi yw sicrhau eu bod yn gwybod sut i ddiogelu cadair olwyn.

Ychwanegodd y llefarydd y dylai unrhyw un sydd yn wynebu problemau o'r fath gymryd rhif y cerbyd a chysylltu â nhw.

Yn ôl elusen Anabledd Cymru, mae angen mwy o ddeddfwriaeth i ddiogelu hawliau pobl anabl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad ynglŷn â chyflwyno deddfwriaeth newydd yn y maes.