Canfod gweddillion troed dde dyn ar draeth Y Felinheli

  • Cyhoeddwyd
Felinheli
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y gweddillion eu darganfod yn Y Felinheli fore Mercher

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod nhw'n "credu'n gryf" mai troed dde dyn gafodd ei ganfod ar draeth yn y Felinheli ddydd Mercher.

Cafodd swyddogion eu galw i draeth Y Felinheli am 06:43 fore Mercher wedi adroddiadau fod rhywun wedi darganfod y gweddillion.

Fe wnaeth archwiliad post mortem gadarnhau mai troed dde gafodd ei ddarganfod ac mae'r heddlu o'r farn mai gweddillion troed dyn ydyw.

Yn ôl yr heddlu mae hi'n anodd rhoi oedran ar y gweddillion ond mae profion wedi datgelu nad oedd wedi bod yn y dŵr am fwy na saith niwrnod.

'Adnabod y gweddillion'

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gerwyn Thomas, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Ein blaenoriaeth yw adnabod y gweddillion er mwyn adrodd y newyddion trist ymlaen at y teulu a ffrindiau.

"Mae DNA wedi'i gasglu ac mae'n flaenoriaeth gennym ni i chwilio drwy'r bas data o bobl sydd ar goll yn lleol i ddechrau, cyn ehangu'r chwilio ymhellach."

Doedd y post mortem ddim yn awgrymu fod unrhyw amgylchiadau amheus yn ymwneud â'r farwolaeth ac mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau.