Penodi prif weithredwr newydd yr Eisteddfod Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Prif WeithredwrFfynhonnell y llun, Betsan Moses

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Betsan Moses fydd yn olynu Elfed Roberts fel prif weithredwr y Brifwyl.

Bydd Mr Roberts yn rhoi'r gorau i'r awenau wedi'r eisteddfod yng Nghaerdydd ym mis Awst, ag yntau wedi arwain y trefniadau i 26 Eisteddfod.

Yn wreiddiol o Bontyberem yng Nghwm Gwendraeth, mae Ms Moses yn dychwelyd i'r Eisteddfod wedi cyfnod o bron i 10 mlynedd fel Pennaeth Cyfathrebu a Chysylltiadau Allanol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Bu'n gweithio fel Pennaeth Cyfathrebu'r Eisteddfod am flynyddoedd cyn hynny.

'Datblygu'r Ŵyl'

Wrth wneud y cyhoeddiad brynhawn Iau, dywedodd Betsan Moses ei bod yn "anrhydedd ac yn her" cael ei phenodi'n brif weithredwr.

Dywedodd: "Mae'r Eisteddfod yn rhan ganolog o'n treftadaeth.

"Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio'n agos gyda staff a gwirfoddolwyr ymroddedig wrth i ni barhau i ddatblygu'r Ŵyl i'r blynyddoedd i ddod a chreu cyfleoedd i ddathlu'r iaith Gymraeg a'n diwylliant dros Gymru gyfan."

Prif Weithredwr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Elfed Roberts yn rhoi'r gorau i'r awenau wedi Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Ychwanegodd Llywydd Llys yr Eisteddfod a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli, Eifion Lloyd Jones: "Rydym ni'n falch iawn o groesawu Betsan yn ôl i gorlan yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn edrych ymlaen am arweiniad ysbrydoledig a chyffrous ganddi.

"Bydd profiadau gwerthfawr cenedlaethol a rhyngwladol ei chyfnod blaenllaw gyda Chyngor Celfyddydau Cymru yn ei harfogi i fynd â'r Eisteddfod ymlaen i gyfnod newydd o arloesi diwylliannol heb anghofio cyfoeth y traddodiad y bydd yn adeiladu arno.

"Bydd cyfle dros y misoedd nesaf hefyd i ddiolch i Elfed am ei waith a'i arweiniad dros y blynyddoedd."

Bydd Betsan Moses yn cychwyn ar ei swydd ym mis Mehefin, a bydd Elfed Roberts yn ymddeol yn dilyn yr Eisteddfod eleni.

Linebreak

Dadansoddiad Huw Thomas, Gohebydd Celfyddydau

Fe fydd Betsan Moses yn ymuno a'r Eisteddfod Genedlaethol ar drothwy'r arbrawf fwyaf yn hanes y sefydliad.

Tra bod Elfed Roberts yn parhau wrth y llyw ar gyfer y Brifwyl yng Nghaerdydd, ar ysgwyddau'r prif weithredwr newydd fydd y dasg o werthuso os ydy'r gambl o gynnal Eisteddfod heb faes arferol wedi llwyddo.

Fel cyn bennaeth PR ar yr Eisteddfod mae ganddi ddigon o brofiad smwddio'r crychau cyhoeddus.

Mae ei swyddi blaenorol ym maes diwylliant Cymru yn golygu ei bod yn gwybod yn barod nad oes modd plesio pawb, ond mae newid i drefn rheoli yr Eisteddfod hefyd yn rhoi rhyddid i'r pennaeth newydd gyflwyno ambell i syniad chwyldroadol.

Fel un o longau mawr yr hen Fae Caerdydd, go brin bydd cyfeiriad y Brifwyl yn newid yn sydyn yn sgil yr apwyntiad.

Bydd rhaid aros i'r maes arferol ddychwelyd yn Llanrwst yn 2019 cyn asesu dylanwad y prif weithredwr newydd ar yr Eisteddfod Genedlaethol.