Elfed Roberts: 'Yr Eisteddfod yn fwy perthnasol'
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud fod yr ŵyl bellach yn llai dosbarth canol a mwy perthnasol o'i chymharu â phan ddechreuodd yn y swydd.
Y Brifwyl ar Ynys Môn eleni fydd 25ain Eisteddfod Elfed Roberts yn ei rôl bresennol, ac mae wedi dweud y bydd yn ymddeol yn dilyn Eisteddfod Bae Caerdydd yn 2018.
Yn ystod y chwarter canrif hwnnw mae'n dweud ei fod wedi ceisio gwneud yr ŵyl yn "fwy perthnasol o ran Cymru gyfoes".
"Mae'r newid wedi digwydd oherwydd fod pobl yn disgwyl newid. Mae gŵyl fel y 'Steddfod yn gorfod esblygu a datblygu bob amser," meddai.
'Denu pobl gyffredin'
"Pan nes i ddechrau gweithio efo'r Steddfod nol yn '86 fel trefnydd, ro'n i yn meddwl yr adeg hynny bod hi'n tueddu i fod yn ŵyl ddosbarth canol i bobl oedd â diddordebau arbennig, i bobl oedd yn hoff iawn o gerddoriaeth glasurol, o ddarlithoedd a barddoniaeth a llenyddiaeth a phethau felly.
"Roeddan nhw i gyd yn bobl oedd yn edrych reit syber, doeddan nhw ddim yn ymddangos i mi fel eu bod nhw'n dod yma i fwynhau a dathlu."
Mae'n credu fod yr ŵyl bellach yn fwy croesawgar i bobl sydd ddim mor hyddysg yn y celfyddydau.
"Beth o'n i eisiau oedd denu mwy o bobl gyffredin i'r 'Steddfod, a dwi'n meddwl bod ni wedi llwyddo i raddau," meddai'r gŵr o Ddyffryn Nantlle.
"Dwi'n meddwl bod 'na ffordd i fynd eto, 'swn i'n licio gweld mwy ohonyn nhw'n dŵad.
"Roedd 'na bobl yn deud ers talwm, di Nghymraeg i ddim digon da i fynd i'r Steddfod, neu dwi'm yn gallu barddoni.
"Wel, dwi methu barddoni chwaith, na fedrai'm canu, dawnsio, actio, dim byd fel 'na.
"Ond dio'm ots, dwi'n gallu mynd i Steddfod i fwynhau, felly dyna di'r nod."
'Incwm sy'n bwysig'
O Fynwy i Fôn y mae'r Eisteddfod yn teithio eleni, gyda'r ŵyl yn symud o ardal ble mae llai na 10% yn siarad Cymraeg, i un o'r unig ddwy sir yn y wlad ble mae dros hanner y boblogaeth yn medru'r iaith.
Mae ymweliad y Brifwyl ag un o gadarnleoedd y Gymraeg, a gwerthiant sydyn y tocynnau gwersylla ac chyngherddau, wedi codi disgwyliadau ynglŷn â nifer yr ymwelwyr eleni.
Ond yn ôl Elfed Roberts byddai hi dal yn gamp a hanner cyrraedd yr uchelfannau a welwyd yn Y Bala yn 2009 - yr unig Eisteddfod y ganrif hon i ddenu dros 160,000 o ymwelwyr.
"Mae Sir Fôn ychydig bach yn bellach [na'r Bala], ac mae Bodedern bron iawn ym mhen draw Sir Fôn. Ond fyswn i wrth fy modd yn gweld Eisteddfod Sir Fôn yn well na'r un Steddfod arall," meddai.
Mae'r prif weithredwr yn dweud fodd bynnag nad yw'n "talu lot o sylw" i'r ffigyrau ymwelwyr.
"Y ffigwr sy'n bwysig i mi ar ddiwedd y dydd ydi yr incwm ar waelod y dudalen ar yr ochr chwith, a'r gwariant ar yr ochr dde," ychwanegodd.
"Os fedrwn ni reoli'r gwariant ar yr ochr dde, a chynyddu'r incwm ar yr ochr chwith, fel bod ni'n gadael gweddill i'w fuddsoddi yn flynyddol yn yr ŵyl, fyddwn ni'n hapus.
"Dwi eisiau'r ddau, ond yr un allweddol ydi'r incwm. Mae'n rhaid i'r Steddfod dalu am ei hun."
Newidiadau?
Ymhlith y newidiadau mwyaf amlwg sydd wedi'u gwneud gan yr Eisteddfod dros y blynyddoedd oedd y penderfyniad i gael gwared â'r pafiliwn pinc y llynedd.
Cafodd yr adeilad newydd ei ganmol am well sŵn ac awyrgylch y tu mewn, ond i eraill doedd y waliau gwyn plaen ddim yn cymharu â'r strwythur eiconig oedd yno gynt.
Mae Elfed Roberts yn hapus â'r penderfyniad i newid, fodd bynnag, ac yn dweud y gallai gael ei haddurno'n well rywbryd yn y dyfodol.
"Dwi'n fwy na pharod i dderbyn y bydd pobl yn dweud, 'mae hwn yn edrych yn ddiflas'. Ond be' sy'n bwysig i fi ydi be' sydd yn y pafiliwn, ac mae hynny'n bwysicach na sut mae'n edrych ar hyn o bryd," meddai.
"Mi ddaw na amser dwi'n siŵr pan fyddwn ni'n gallu gwneud rhywbeth y tu allan, ond mae'r gost ar hyn o bryd yn eithaf sylweddol, ac mae'n anodd cyfiawnhau."
Un lleoliad ble bydd newid amlwg eleni fydd ym Maes B, gyda gwasanaeth Y Gorlan yn diflannu wedi i'r Brifwyl gomisiynu adroddiad i drefniadau diogelwch y maes ieuenctid.
Urdd Sant Ioan a Bugeiliaid Stryd Bangor fydd bellach yn gyfrifol am y gwasanaeth bugeilio yno, gyda'r Gorlan yn adleoli i faes gwersylla Cymdeithas yr Iaith.
"Mae'r bobl yma wedi cael eu hyfforddi'n broffesiynol i edrych ar ôl lles a gwarchod. Erbyn hyn mae gofynion sydd ar wyliau i edrych ar ôl y bobl sy'n mynychu yn llawer iawn trymach na beth oedden nhw ers talwm," meddai Mr Roberts.
"Dwi'n gwbod fod hwn yn siom i rai o'r bobl sydd wedi bod ynghlwm â'r Gorlan ers blynyddoedd, mae'n siom i ni hefyd... ond fedri di ddim anwybyddu argymhellion sydd mor bendant a chlir â hynna."