Caniatâd i godi fferm wynt ddadleuol
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau dadleuol i godi fferm wynt ar Fynydd Hiraethog yn ardal Uwchaled wedi cael eu caniatáu ar apêl gan Lywodraeth Cymru.
Ond mae penderfyniad yr Ysgrifennydd Ynni Lesley Griffiths yn groes i argymhelliad arolygydd cynllunio oedd wedi barnu o blaid penderfyniad gwreiddiol Cyngor Sir Ddinbych i wrthod y cais cynllunio.
Mae cwmni Pant y Maen Windfarm am godi saith tyrbin yn ardal Llyn Bran, gerbron yr A543 - ffordd sy'n croesi Mynydd Hiraethog syd wedi ei ddynodi yn ardal Ardaloedd Chwilio Strategol (SSA).
Roedd y cyngor yn dweud y byddai'r datblygiad yn amharu ar olygfeydd sydd i'w gweld wrth edrych o Fryniau Clwyd, ardal 19 milltir i ffwrdd, tuag at Eryri.
Oes Efydd
Fe gytunodd yr arolygydd cynllunio gyda'r cyngor y byddai'r tyrbinau yn amharu ar yr olygfeydd wrth i gerddwyr ar Glawdd Offa edrych i gyfeiriad Yr Wyddfa
Dadl y cwmni oedd na fyddai'r safle yn amharu yn ormodol ar y golygfeydd.
Roedd CADW, y corff sy'n gyfrifol am warchod safleoedd hanesyddol, hefyd wedi gwrthwynebu'r cais, gan fod y safle gerbron safleoedd o'r Oes Efydd.
Dywedodd Mrs Griffiths ei bod hi am roi caniatâd i'r datblygiad gan fod y budd a ddaw o gyflenwi ynni adnewyddol yn cario mwy o bwysau na'r effaith y byddai'n ei gael ar yr ardal.
Yn ei phenderfyniad hi, roedd yr arolygydd Kay Sheffield wedi dweud y byddai'r datblygiad yn golygu newid sylweddol i gymeriad yr ardal.