300,000 apwyntiad ysbyty wedi eu methu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth bron i 300,000 o apwyntiadau ysbyty gael eu methu yng Nghymru yn 2016/17.
Mae'r byrddau iechyd yn dweud bod hyn wedi costio mwy na £36m, ond mae cyfrifiadau tebyg wedi cael eu cwestiynu yn y gorffennol am fod meddygfeydd weithiau'n cael eu gorfwcio.
Mae pob apwyntiad sy'n cael ei fethu yn costio rhwng £55 a £160 ar gyfartaledd.
Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro oedd â'r nifer uchaf o apwyntiadau gafodd eu methu, a dywedodd un llawfeddyg bod y sefyllfa'n "gwylltio" meddygon a chleifion sy'n aros am driniaeth.
I geisio lleihau'r broblem, mae rhai byrddau iechyd wedi dechrau gyrru negeseuon testun yn atgoffa cleifion o'u hapwyntiadau.
Apwyntiadau gafodd eu methu a'u cost tybiedig:
Caerdydd a'r Fro - 71,000 apwyntiad ar gost o £160 yr un;
Betsi Cadwaladr - 46,000 apwyntiad ar gost o £140.52 yr un;
Abertawe Bro Morgannwg - 58,000 apwyntiad ar gost o £66 yr un;
Cwm Taf - 45,000 apwyntiad ar gost o £132 yr un;
Hywel Dda - 32,000 apwyntiad ar gost o £140 yr un;
Aneurin Bevan - 34,000 apwyntiad ar gost o £137 yr un;
Powys - 2,871 apwyntiad, dim cost wedi ei roi.
Ffynhonnell: Ystadegau Cymru ac Cais Rhyddid Gwybodaeth BBC.
Roedd y 71,000 o apwyntiadau gafodd eu methu yng Nghaerdydd a'r Fro yn 11% o holl apwyntiadau'r bwrdd.
Dywedodd y llawfeddyg ymgynghorol, Dr Mike Fardy: "Efallai ei fod ond yn driniaeth fach ond mae'n driniaeth werthfawr y gallai rhywun arall ei gael.
"Mae'n gwylltio rhywun. Dydw i ddim yn bod yn feirniadol ond os ydych chi'n rhoi gwybod i ni, mae rhestr o [gleifion eraill] all ddod i mewn gydag ychydig iawn o rybudd."
Mae'r bwrdd bellach wedi dechrau cynllun peilot i yrru neges yn atgoffa cleifion o'u hapwyntiad a'r gost os nad ydyn nhw'n mynd.
Dywedodd rheolwr y cynllun, Tina Ball: "Prosesu'r apwyntiad pan ddaw i mewn, ei roi ar y rhestr aros, gwneud yr apwyntiad, mae'n rhaid i ni edrych am y nodiadau, ac yna amser yr ymgynghorydd.
"Os ydych chi'n adio hynny i gyd at apwyntiad, mae'n costio tua £160."
Cynnig dirwyo cleifion
Fe wnaeth cynllun tebyg gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan leihau nifer yr apwyntiadau gafodd eu methu o dros 8,500 rhwng 2015/16 a 2016/17, gydag arbedion tybiedig o dros £1m.
Yn 2015, fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig gynnig syniad o ddirwy o £10 i gleifion sy'n methu apwyntiadau'n aml, gan ddweud bod rhaid i'r cyhoedd ddefnyddio'r Gwasanaeth Iechyd mewn ffordd "gyfrifol".
Ond dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai dirwy'n rhy gymhleth i'w gyflwyno, gyda meddygon teulu'n gwrthod y syniad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2015