Cyrff Malltraeth: Ymchwiliad yn parhau

  • Cyhoeddwyd
malltraeth
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i draeth Malltraeth am 11:43 fore Gwener

Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i ymchwilio, ar ôl i gyrff dau o ddynion gael eu darganfod ar draeth ym Malltraeth ar Ynys Môn ddydd Gwener.

Mae swyddogion yn dweud eu bod nhw bellach wedi adnabod y cyrff, ac nad oedd y ddau yn dod o ogledd Cymru.

Mae'r heddlu yn dal i geisio sefydlu sut y bu'r dynion farw.

Cafodd yr heddlu eu galw i draeth Malltraeth am 11:43 i adroddiad fod cyrff wedi'i darganfod ar y traeth.

Mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn credu fod y digwyddiad yn gysylltiedig gyda'r darganfyddiad o weddillion troed dde ar draeth yn y Felinheli ddydd Mercher.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau nad ydynt yn credu fod y cyrff yn ymwneud â damwain ar y môr ac mai Heddlu Gogledd Cymru sy'n arwain yr ymchwiliad.

Dywedodd y Prif Arolygydd Gerwyn Thomas o Heddlu'r Gogledd: "Mae'r marwolaethau yn cael eu trin fel rhai anesboniadwy ar hyn o bryd wrth i ni geisio ymchwilio i'r amgylchiadau.

"Yn anffodus rydym yn credu fod y digwyddiad yma'n gysylltiedig gyda'r darganfyddiad o droed person ar draeth yn Y Felinheli ger Bangor yn gynharach yn yr wythnos."