Galw am gefnogaeth gyfartal i brentisiaid

  • Cyhoeddwyd
prentis

Dylai prentisiaid yng Nghymru gael yr un gefnogaeth ariannol a myfyrwyr prifysgol, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Fe gyhoeddodd y Pwyllgor Isadeiledd Economaidd Sgiliau ei adroddiad diweddaraf ar brentisiaethau ddydd Iau.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Russell George AC: "Mae cydraddoldeb parch rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd angen ei danategu gan gydraddoldeb cefnogaeth i ddysgwyr.

"Mae achos moesol cryf i Lywodraeth Cymru gynnig yr un lefel o gefnogaeth i brentisiaid ag sydd ar gael i'w cyfoedion mewn addysg llawn amser."

Ymgyrch hysbysebu

Yr wythnos hon mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch hysbysebu i hybu pecyn o fesurau i fyfyrwyr prifysgol y mae'n disgrifio fel "y pecyn cefnogaeth mwyaf hael i fyfyrwyr yn y DU".

Er bod prentisiaid yn derbyn cyflog wrth iddyn nhw hyfforddi, dydyn nhw ddim yn gymwys i dderbyn y pecyn sydd ar gael i fyfyrwyr, ac fe all hynny wneud i brentisiaeth ymddangos yn llai deniadol.

Clywodd y pwyllgor fod rhai pobl ifanc yn cael eu hatal rhag mynd am brentisiaeth oherwydd y costau cychwynnol. Gall hyn fod y gost gymharol isel o deithio i gyfweliad, neu yr wythnosau cyntaf o waith cyn iddyn nhw gael eu talu.

Fe wnaeth y pwyllgor ganfod bod llawer o bethau positif am brentisiaethau yng Nghymru, ond er hynny roedd ambell siom:

  • Roedd nifer y prentisiaethau anabl yng Nghymru ymhell islaw'r lefel yn Lloegr;

  • Mae pryder fod diffyg darparwyr yn atal pobl ifanc rhag gwneud prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg;

  • Mae yna 'styfnigrwydd o safbwynt arwahanu ar sail rhyw wrth drafod prentisiaethau, ond mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i newid y sefyllfa.

'Ymrwymo i wella cyfleoedd'

Ychwanegodd Mr George: "Yn ystod ein hymchwiliad fe glywsom bryderon am y modd y mae cyngor gyrfaoedd yn cael ei ddarparu mewn ysgolion.

"Fe gawsom sicrwydd fod gan Gyrfaoedd Cymru gynllun, ac maen nhw'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion i ateb y materion yma.

"Byddwn yn cadw golwg er mwyn sicrhau bod hynny'n llwyddiannus."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn diolch i'r pwyllgor am ei adroddiad. Byddwn yn ystyried yr argymhellion yn ofalus ac yn ymateb yn fwy manwl dros yr wythnosau nesaf.

"Rydym wedi ymrwymo i godi sgiliau a gwella cyfleoedd yn y gweithle, a dyna pam y gwnaethom ehangu'r mynediad i brentisiaethau i bobl o bob oed.

"Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod prentisiaethau o fewn cyrraedd unigolion ar draws Cymru."