Cymru wedi cael sedd yn y Cenhedloedd Unedig?
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ddraig Goch i'w gweld yn aml mewn llefydd anarferol, ond dyma'r tro cyntaf erioed iddi hi gael ei gweld yn amlwg yn adeilad y Cenhedloedd Unedig.
Dyw Cymru ddim yn aelod llawn o'r UN meddech chi, ond dyw hynny ddim yn broblem ym myd ffuglen y sinema.
Cafodd y faner ei gweld gan nifer o Gymry llygadog tra'n gwylio'r ffilm newydd Black Panther.
Mae 'na ddyfalu mawr wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol am ei phresenoldeb. Oedd 'na Gymro neu Gymraes yn addurno'r set neu oedd 'na genedlaetholwyr brwd wedi llwyddo i'w gosod hi yno cyn i unrhyw un sylweddoli?
Ond mae 'na ddamcaniaeth arall, sef bod aelod o griw'r ffilm yn ceisio plesio'r bos.
Industrial Light and Magic (ILM) oedd yn gyfrifol am effeithau arbennig Black Panther. Merch o Sir Benfro, Lynwen Brennan, yw Llywydd a Rheolwr Cyffredinol presennol ILM.
Mae Lynwen, sy'n wreiddiol o Benalun ger Dinbych-y-Pysgod, hefyd wedi ei henwebu am wobr diwylliant yng Ngwobrau Dewi Sant 2018.
Ry'n ni yn Cymru Fyw wedi gofyn i gwmni Disney am esboniad.
Gareth Thomas a'r 'Red Dragon'
Ond nid dyma'r tro cyntaf i gomics Marvel gydnabod bodolaeth Cymru.
Ym mis Rhagfyr 2000, wnaeth cymeriad o'r enw Red Dragon ymddangos mewn un stori o'r comic Sentry.
Gareth Thomas oedd enw iawn Red Dragon ac mae'n debyg fod ganddo adenydd a dannedd miniog.
Yn anffodus, 'dyw e ddim yn debygol o wneud ymddangosiad arall gan ei fod wedi ei ladd yn y stori... ond eto, efallai bod bodolaeth y faner ar ddiwedd ffilm Black Panther yn awgrymu fel arall?