Gwobr genedlaethol i ŵyl gerddorol yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
portmeirion
Disgrifiad o’r llun,

Y gynulleidfa yn mwynhau'r arlwy ar sgwâr y pentref

Mae gŵyl gerddorol sy'n cael ei chynnal mewn pentref yng Ngwynedd bob blwyddyn wedi ennill gwobr genedlaethol.

Fe enillodd Gŵyl Rhif 6, sy'n un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i bentref Eidalaidd Portmeirion, wobr am yr Ŵyl Fach Orau yng ngwobrau'r NME eleni.

Ers nifer o flynyddoedd mae Gŵyl Rhif 6 wedi bod yn cael ei chynnal ym Mhortmeirion bob mis Medi, lle cafodd y gyfres enwog The Prisoner ei ffilmio yn ystod yr 1960au.

Mae'r wobr gan gylchgrawn y New Music Express yn cael ei rhoi i'r ŵyl orau sydd ddim gyda chynulleidfa o fwy na 50,000 yn mynychu.

Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i'r ŵyl ennill y wobr, ac eleni roedd gwyliau megis Kendal Calling, End of the Road, Wilderness a Boardmasters yn cystadlu am y teitl.

Disgrifiad o’r llun,

Yr artist Badly Drawn Boy yn perfformio ar un o lwyfannau'r ŵyl

Dywedodd un o drefnwyr yr ŵyl, Luke Huxham ei fod yn teimlo bod Gŵyl Rhif 6 yn haeddu ennill y wobr.

"Mae Gŵyl Rhif 6 yn ddigwyddiad arbennig iawn ac yn unigryw yng nghalendr yr ardal oherwydd mai'r lleoliad - Portmeirion ei hun - ydi seren y sioe.

"Rydym mor ffodus i gynnal un o wyliau gorau'r byd yma bob blwyddyn ac rydym yn ddiolchgar i'r bobl a'r gymuned leol sydd yn gwneud hyn yn bosibl.

"Rydym wrth ein bodd gyda'r wobr gan yr NME ac fe fyddwn yn ymdrechu unwaith eto i wneud 2018 yn flwyddyn wych arall."

Yn gynharach yr wythnos hon, fe gyhoeddodd Gŵyl Rhif 6 y bydd The The, Franz Ferdinand, Firearms Friendly, Jesse Ware a The Charlatans ymysg nifer o artistiaid fydd yn perfformio eleni.