Beth yw hoff eiriau Cymraeg y 'selebs'?
- Cyhoeddwyd
I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, mae Cymru Fyw wedi mynd ati i gasglu hoff eiriau'r genedl.
Lansiwyd ymgyrch Hoff Air gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru yn gynharach yn yr wythnos - ac mae cannoedd ohonoch chi wedi ymateb yn barod.
Bydd Cymru Fyw yn cyhoeddi cymaint o'ch hoff eiriau ag sy'n bosibl yr wythnos nesa'. Ond fel tamaid i aros pryd, mae llu o enwogion - gan gynnwys ambell i 'seleb' annisgwyl - wedi datgelu eu hoff eiriau yn barod.
Yn eu plith mae'r cyflwynydd radio Chris Evans, y newyddiadurwr Huw Edwards ac Alex Jones o The One Show. Hefyd, yr orangutan Gareth sy'n cyfweld enwogion ar Hansh ar S4C, a'r seren YouTube sydd wedi dod i amlygrwydd am ei fideos yn siarad mewn gwahanol dafodieithoedd, Korean Billy.
Cofiwch, mae dal cyfle i chi gyfrannu at y casgliad drwy lenwi'r blwch ar waelod y dudalen neu ebostiwch cymrufyw@bbc.co.uk. Gallwch hefyd eu hanfon drwy Facebook BBC Cymru Fyw, dolen allanol neu drwy ddefnyddio'r hashnod #HoffAir mewn neges ar Twitter.
Alex Jones, cyflwynydd The One Show (Cwtsh)
Fy hoff air i yw 'cwtsh' achos s'dim gair fel e yn Saesneg. Hug... cuddle... ond dyw e ddim cweit fel cwtsh. Dim ond ni'r Cymry sy'n gwybod beth yw cwtsh go iawn!
Huw Edwards, newyddiadurwr a darlledwr (Perfedd)
Perfedd oedd hoff air fy nhad (yr hanesydd Hywel Teifi Edwards).
Chris Evans, darlledwr a chyflwynydd y BBC Radio 2 Breakfast Show (Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch)
Pam? Achos mod i'n gallu ei ddweud e. Rwy' braidd yn gallu siarad Saesneg ond rwy'n medru ynganu'r gair yma!
Mari Lovgreen, awdur a chyflwynydd (Cwsg)
Fy hoff air ydi 'cwsg' gan mod i'n caru cysgu a ddim yn cael digon ohono ar y funud!
Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru (Dwysbectolheigaidd)
Os oes rhaid i mi roi fy mhen i'w dorri, a dewis un hoff air, 'dwysbectolheigaidd' fyddai hwnnw, sef gair rhyfeddol y bardd Elerydd i ddisgrifio rhywun sy'n 'ddwys', 'sbectolog' ac yn 'ysgolheigaidd'.
Beti George, darlledwr (Siandifang)
Mae siandifang yn ddisgrifiad teg o'r stydi.
Dan Snow, hanesydd (Bach)
Fy hoff air yw 'bach' achos dyna beth oedd Nain yn ein galw ni pan oedden ni'n fabis. Mae'n fy atgoffa o deimlo'n ddiogel ac yn glyd.
Dafydd Iwan, canwr a chyfansoddwr (Preswylio / Preswylfa / Preswyliwr)
Efallai fod peth o'r hud wedi ei chwalu gan y stori am un o weithwyr Atomfa Môn a enillodd ddigon o bres i godi tŷ newydd a'i enwi yn 'Preswylfa', ond un o fy hoff arwyddion cyhoeddus preifat yw'r un tu allan i westy ger Llanrug: "Agored i'r di-breswyl". Da 'di'r iaith.
Aled Hughes, cyflwynydd (Pendwmpian)
Gair sydd yn cyfleu yn berffaith y syniad o fod wedi blino rhywfaint. Wedi blino, ond dim wedi blino digon i gysgu. Chwip o air da.
Gwilym Owen, darlledwr a cholofnydd (Colbio)
Mae'n golygu rhoi curfa iawn i rywun - yn enwedig rhoi 'colbiad i'r sefydliad'. Dyna dwi'n mwynhau ei wneud mewn bywyd!
Osian Williams, cerddor (Simsan)
Pan o'n i'n fach o'n i'n arfer crio chwerthin ar y gair yma a dwi ddim yn siŵr pam! Felly pan dwi'n clywed y gair yma 'wan dwi dal yn ca'l rhyw wên fach efo fi'n hun.
Kate Humble, cyflwynydd (Hiraeth)
Mae gen i arwydd gyda'r gair 'hiraeth' yn hongian wrth fy nesg. 'Dyw e ddim yn cyfieithu'n dda iawn i'r Saesneg. Dyw longing neu homesickness ddim yn cyfleu'r emosiwn rhyw ffordd.
Ryland Teifi, actor a cherddor (Awen)
Pan fi'n sgwennu caneuon ac yn cael hwyl arni mae fel bod rhywbeth hudolus yn digwydd.
Gareth yr orangutan (Sglodion)
Dwi'n licio chips, ma' chips yn un o'n hoff fwyd i. Mae o'n mynd efo pob dim, a mae o'n lot gwell na reis neu salad. Felly, fy hoff air Cymraeg i ydi sglodion, achos ma chips yn air Saesneg.
Hefyd o ddiddordeb:
Tudur Owen, comedïwr a chyflwynydd (Ymylol)
Oherwydd dio ddim yn y canol ac mae 'na lol ynddo!
Eleri Siôn, cyflwynydd (Slebetsh)
Mae'n air onomatopeaidd ac rwy'n dwli ar y geirie hynny! Mae'n air o'n i fel teulu yn defnyddio ar y fferm yn Neuaddlwyd lle ges i'n magu, ac roedd 'na lot o slebetsh o'n cwmpas ni yn tyfu lan! (Mae'n air tafodieithol am fwd).
Bryn Fôn, actor a chanwr (Drybola)
Drybola. Am ei fod yn swnio fel ei ystyr! 'Roedd y lle yn drybola!' sef yn llanast llwyr.
Hywel Gwynfryn, darlledwr ac awdur (Bondibethma)
Os ydach chi wedi clywed y gair o'r blaen, yna mae'n rhaid eich bod chi'n gwrando ar y rhaglen bop Gymraeg gynta' ar y radio 'Helo Sut Da Chi' ar fore Sadwrn ym 1968. Fe ges i hwyl garw yn cyflwyno'r rhaglen ac fe fathwyd y gair 'bondibethma' i gyfleu y teimlad o foddhad pur - teimlad bondibethma.
Siân Harries, comedïwr (Pendramwnwgl a Bolgi)
Pendramwnwgl - oherwydd bod e'n llythrennol yn swnio fel rhywun yn cwympo lawr staer, a bolgi - achos bod e hefyd mor llythrennol - rhywun sy'n byta cymaint ma' ganddyn nhw bola fel ci. Does na ddim cyfwerth yn Saesneg.
Siw Hughes, actores (Simsan)
Mae'n air melodig iawn ac yn cyfleu'r ystyr yn berffaith...
Gwyn Llewelyn, darlledwr (Gobaith)
'Gobaith', am fod ei ddirfawr angen rhag digalonni'n llwyr.
Alex Humphreys, newyddiadurwraig a chyflwynydd Ffeil (Sothach)
Yn bennaf, oherwydd dwi'n cofio roedd dad wastad yn dweud: "Ti ddim yn bwyta mwy o sothach, Alex!" a dwi'n cofio hoffi sut oedd y gair yn swnio. Hefyd, pan o'n i'n ysgol gynradd, ces i'r cyfle i fod yn extra mewn perfformiad o'r sioe 'Sothach a Sglyfath' yn Theatr Clwyd - y tro cyntaf i mi gael blas o berfformio ar lwyfan proffesiynol. Felly mae'r gair yn dod a sawl atgof yn ôl atai.
Derek Brockway, cyflwynydd tywydd (Bendigedig)
Dwi wrth fy modd pan dwi'n cael cyfle i ddefnyddio'r gair yma yn y bwletinau tywydd. Bendigedig - mae'n air sy'n swnio mor hyfryd.
Shân Cothi, cyflwynydd (Pendwmpian)
Mae'n disgrifio'r weithred yn berffaith. A mae sain y gair mor neis i'w ddweud. I ddweud y gwir, tasech chi'n ei ddweud digon aml, siŵr fasech yn cysgu mewn chwinciad.
Tweli Griffiths, newyddiadurwr (Tangnefedd)
Tangnefedd - mae'n addas ar gyfer gymaint o wahanol achlysuron.
Manon Rogers, o griw rhaglen Tudur Owen ar BBC Radio Cymru (Machlud)
Pwy sydd ddim yn hoffi'r adeg yma o'r dydd?
Korean Billy, seren YouTube (Cwtsh)
Fy hoff air Cymraeg yw 'cwtsh'. Mae'n creu delwedd hyfryd o bobl Cymru'n cofleidio ei gilydd. Ha ha!
Morfudd Hughes, actores (Ffurfafen)
Ffurfafen - dwi mor hoff o sŵn y gair yn ogystal â'r darlun mae o'n 'i gyfleu.
Sharon Roberts, actores (Lapswchan)
Gair hollol stiwpid de! (Mae'n golygu 'smooch' yn Saesneg)
Richard Simcott, ieithydd (Draenog)
Mae draenogod yn anifeiliaid braf iawn a dwi'n hoffi'r gân 'Draenog Marw ar y Ffordd.'
Russell Grant, sêr-ddewin (Cariad)
Rwy' wedi dwli ar y gair 'cariad' erioed - ac mae'n siŵr mai dyna fydd ffefryn llawer o bobl. Y gair Cymraeg arall rwy'n ei hoffi yw 'bendigedig'.
Beth yw eich hoff air Cymraeg chi? Anfonwch eich hoff air at BBC Cymru Fyw a chofiwch nodi'r rheswm pam.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2018