Beth yw eich hoff air Cymraeg?

  • Cyhoeddwyd
Ifor ap Glyn

Beth yw dy hoff air? Mae'n un o'r cwestiynau digri' 'na, fel "beth yw dy hoff liw?", neu "pwy yw dy arwr?" ac mae'n hatebion ni'n gallu dweud tipyn amdanom ni.

Mae ymgyrch 'Hoff Air' Cymru Fyw yn ddathliad o gyfoeth yr iaith Gymraeg. Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, sy'n rhoi cynnig ar ddewis ei hoff air yntau...

line

A minnau wedi gwneud cyfres i Radio Cymru am 'Hanes yr Iaith mewn Hanner Can Gair', mae gorfod dewis un hoff air fel gofyn i Dad ddewis ei hoff blentyn!

Trois at y we am gymorth felly, a gwglo 'Hoff air' - ond cefais syrffed o wybodaeth am gwmni Mr Hoff o Missouri, a'i wasanaeth peiriannau awyru.

Cynigiais 'Hoff eiriau' wedyn. 'Did you mean 'hoff erika' gofynnodd y peiriant pori yn smyg - felly o ran ymyrraeth, mi dderbyniais yr awgrym, er mwyn gweld beth ddeuai o hynny.

Ac yn addas ddigon, cefais fod Erika Hoff yn gyfarwyddwraig ar labordy iaith ym Mhrifysgol Florida. Rhyfedd o fyd!

Tybed beth oedd ei hoff air hi felly? Ebostiais, a chael ateb sydyn (ond ychydig yn siomedig), mai 'actually' oedd hi'n ei ddefnyddio fwyaf. A, wel...

Dr Kate Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Ai 'straffaglio' oedd hoff air yr awdur Kate Roberts? Neu 'rhupynt'?

Ond roedd hynny'n codi pwynt difyr - ydi defnyddio gair yn aml yn brawf fod rhywun yn 'hoff' ohono?

Mae'n sicr yn gallu fod yn nodwedd cymeriad - ac mae nofelwyr wedi cydio yn hyn droeon, fel dyfais i helpu adeiladu darlun o'u cymeriadau.

''Trefn' oedd un o hoff eiriau Irene', meddai John Roberts yn ei nofel Gabriela; a 'llwybr' yw un o hoff eiriau Cyrnol Powell yn nofel Jerry Hunter, Y Fro Dywyll.

Yn y stori fer Kate Roberts a'r Ystlum, mae Mihangel Morgan yn ceisio dychmygu beth oedd hoff eiriau Dr Kate. Cynigia 'straffaglio', 'holwyddoreg' a 'rhupynt', ymhlith eraill, cyn setlo ar 'ystlum' y teitl.

'Ylwch mor eang yw fy ngeirfa'

Ond beth mae dewis 'hoff air' yn datgelu am gymeriad mewn nofel - neu amdanom ni ein hunain?

Bydd rhai yn dewis gair tafodieithol i arddel eu perthynas â'u milltir sgwar, yn enwedig os yn byw ymhell ohoni.

Bydd eraill yn dewis gair safonol ond 'obsgiwar', er mwyn dangos eu hunain; 'ylwch mor eang yw fy ngeirfa'.

Bydd rhai yn ceisio gwneud i ni wenu, gan nodi rheswm ffraeth dros eu dewisiadau, tra bod cysuron natur a chrefydd yn siŵr o gymell eraill.

Bydd geiriau anodd eu cyfieithu, fel 'hiraeth' neu 'anghyfiaith' yn mynd â bryd rhai ohonom, er mwyn dathlu arwahanrwydd y Gymraeg.

line

Hefyd o ddiddordeb:

line

Os ydym yn ffurfio ein perthynas â'r Gymraeg ar ôl dod yn oedolyn (yn hytrach na fel plentyn), gall hynny ddylanwadu ar ein dewis.

Flynyddoedd yn ôl, mewn cwmni theatr, roedd un o'm cydweithwyr yn dysgu'r iaith, a 'gwobr' oedd ei hoff air yntau. Iddo fo, roedd yn swnio'n ddoniol, yn ei atgoffa o'r gair Saesneg 'wobble'.

Mae'n debyg na fyddai siaradwr iaith gynta' yn gweld hi 'run fath, ond pa ots am hynny? Does neb yn gwirioni 'run fath, ac edrychaf ymlaen yn awchus at weld sut ymateb fydd i'r alwad, wrth i bobl nodi eu 'hoff air' ar Cymru Fyw!

Ac os oes rhaid i mi roi fy mhen i'w dorri, a dewis un hoff air, 'dwysbectolheigaidd' fyddai hwnnw, sef gair rhyfeddol y bardd Elerydd i ddisgrifio rhywun sy'n 'ddwys', 'sbectolog' ac yn 'ysgolheigaidd'. (Sydd yn dri-gair-mewn-un, mewn gwirionedd - ond o leia' dwi wedi torri lawr dipyn o hanner can gair!)

Beth yw eich hoff air Cymraeg chi? Anfonwch nhw atom drwy lenwi'r ffurflen isod neu ebostiwch cymrufyw@bbc.co.uk. Gallwch hefyd eu hanfon drwy Facebook BBC Cymru Fyw, dolen allanol neu drwy ddefnyddio'r hashnod #HoffAir mewn neges ar Twitter.