Clwb Pêl-droed Abertawe yn gyfrifol am Stadiwm y Liberty

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm y LibertyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Stadiwm y Liberty ei agor yn 2005

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau eu bod wedi cymryd rheolaeth lawn o Stadiwm y Liberty.

Mae'r cytundeb yn golygu y bydd Cyngor Abertawe yn derbyn incwm blynyddol gan y stadiwm am y tro cyntaf.

Bydd tîm rygbi'r Gweilch hefyd yn parhau i chwarae yno.

Dywedodd Steve Kaplan a Jason Levien, sy'n gyfranddalwyr eu bod wrth eu boddau.

"Mae'r cytundeb yn gam pwysig ymlaen tuag at wneud Clwb Pêl Droed Abertawe yn un cynaliadwy ac yn dechrau'r llwybr tuag at ehangu'r stadiwm, rhywbeth rydyn ni wastad wedi dweud oedd yn rhan allweddol o'n cynllun ar gyfer y clwb," meddai Steve Kaplan.

Fel rhan o'r cytundeb mae'r clwb pêl droed wedi ymrwymo i ariannu dau gae 3G newydd yn Abertawe bob pum mlynedd fel y gall y gymuned leol eu defnyddio.

Yn ôl arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart mae'r cytundeb yn "newyddion gwych i bawb."