Daeargryn yn taro rhannau o dde Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae daeargryn bach wedi taro de Cymru.
Mae adroddiadau bod y daeargryn wedi ei deimlo mewn ardaloedd ar draws Cymru ac mewn ardaloedd hefyd yn Lloegr.
Hwn oedd y daeargryn mwyaf ym Mhrydain ers 10 mlynedd.
Dywedodd y corff sy'n mesur digwyddiadau o'r fath, Arolwg Daearegol Prydeinig, fod canolbwynt y daeargryn 20km i'r gogledd ddwyrain o Abertawe ac yn 7.4km o ddyfnder.
Dim ond bob 3-5 blynedd mae digwyddiad o'r raddfa yma yn digwydd medden nhw.
Does dim adroddiadau o anafiadau na difrod sylweddol.
Cyngor yr heddlu
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi derbyn "nifer uchel" o alwadau ynglŷn â'r cryndod wnaeth bobl deimlo.
Cyngor Heddlu De Cymru yw na ddylai'r cyhoedd ffonio'r gwasanaethau brys oni bai eu bod am gofnodi anafiadau neu ddifrod i'w heiddo.
Fe glywodd Steven Clathworthy sy'n byw ger Pen y Bont ar Ogwr glec ac yna'r soffa yn symud.
"Fe wnes i ffonio fy rhieni sy'n byw yng Nghwm Ogwr ac fe aethon nhw i sefyll ar eu stepen drws. Odd y cymdogion i gyd yn gofyn 'Beth ddigwyddodd?'
"Fe wnes i edrych mas o'r ffenest i weld os mai gwynt oedd gwraidd y peth ar ôl clywed y sŵn a'r cryndod.
"Odd e ddim fel yr hyn rydych chi'n gweld ar y teledu. Odd e fwy fel, 'O beth oedd hwnna?'"
Roedd y profiad yn "reit frawychus" i wyres Bryan Jones, 72 oed o Dreorci yn y Rhondda.
Ymateb ar twitter
"Fe wnaeth hi regi tamed bach ac fe gododd fy ngwraig a gofyn 'Beth oedd hwnna?'"
"Mae 'na waith yn digwydd ar y pyllau glo o gwmpas fan hyn felly wnaethon ni feddwl falle mai hynny oedd wedi achosi'r cryndod. Dyw rhywbeth fel hyn ddim fel arfer yn digwydd."
Mae pobl wedi bod yn ymateb hefyd ar wefan twitter gyda nifer yn gofyn a oedd eraill wedi teimlo'r cryndod tra bod rhai yn dweud nad oedden nhw wedi sylwi ar y daeargryn o gwbl.
Un symudiad 'llyfn'
Roedd Ffion Rees yn ei fflat yn Abertawe pan wnaeth hi deimlo rhywbeth.
"Glywes i'r bang enfawr ma. O'n i yn meddwl bod e wedi dod uwch fy mhen i, o un o'r fflatiau uwch fy mhen i.
"Ond wrth gwrs ryw eiliadau ar ôl ni fe symudodd y fflat â'r adeilad cyfan. Odd e ddim yn cymaint o'r adeilad yn crynu.
"Odd e yn fwy o un symudiad eithaf llyfn i fod yn onest ond symudiad mawr," meddai wrth Radio Cymru.