Gorchymyn i gyhoeddi cynllun taclo llygredd aer i Gymru

  • Cyhoeddwyd
llygredd aerFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae gweinidogion Cymru wedi cael nes diwedd mis Gorffennaf eleni i gyhoeddi eu cynlluniau terfynol i daclo llygredd aer.

Mewn achos llys ym mis Ionawr fe wnaethon nhw ildio i ymgyrchwyr newid hinsawdd eu bod nhw wedi methu â chyrraedd targedau'r UE ar dorri llygredd aer.

Ddydd Mercher fe gytunodd barnwr fod y mesurau presennol i daclo'r broblem yn anghyfreithlon.

Mae'r dyfarniad yn golygu fod dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun erbyn diwedd Ebrill a chynllun terfynol erbyn 31 Gorffennaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i wella safon aer ar draws Cymru, yn unol â rheolau'r UE.

Cafodd y dyfarniad ei groesawu gan grŵp ymgyrchu ClientEarth, a ddywedodd y byddai'r cynlluniau yn gorfod "dangos pa gamau fydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i daclo llygredd aer yng Nghymru".

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Bydd ein Cynllun Aer Glân i Gymru diweddar yn cynnwys Fframwaith Parth Aer Glân i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflwyno Parthau Aer Glân mewn ffordd gyson ac effeithiol, gwella sut mae awdurdodau lleol yn rhoi gwybod am broblemau ansawdd aer, a sefydlu Canolfan Asesu a Monitro Ansawdd Aer Genedlaethol i Gymru.

"Byddwn hefyd yn ail-lansio gwefan Ansawdd Aer Cymru Llywodraeth Cymru er mwyn gwella rhagolygon ansawdd aer, gydag adrannau newydd ar gyfer ysgolion a chyngor iechyd."

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cael gorchymyn i dalu costau ClientEarth.