Cynnydd o 300% mewn presgripsiynau tabledi lladd poen

  • Cyhoeddwyd
tablediFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae clinigwr blaenllaw wedi rhybuddio am y cynnydd sylweddol mewn presgripsiynau meddyginiaeth lladd poen cryf ledled Cymru.

Dywed Dr Julia Lewis fod y cynnydd yn cael ei yrru'n rhannol gan anghysondebau yn y gwasanaethau rheoli poen, a bod diffyg therapïau amgen yn gadael dim dewis i feddygon ond i roi meddyginiaeth i'r cleifion.

Fe ddaw'r rhybudd wrth i astudiaeth fawr ar ddefnydd cyffuriau opioid yng Nghymru ddangos bod nifer o bresgripsiynau o'r cyffuriau cryfaf wedi cynyddu 300% rhwng 2005 a 2015.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd ymgynghoriad ffurfiol ar "arweiniad yn ymwneud â phoen parhaus" yn dechrau'n fuan.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i Robert Rees roi'r gorau i'w waith 15 mlynedd yn ôl oherwydd poen

Dywedodd Robert Rees o Bontypridd fod ei boen y rheoli ei fywyd, gan ychwanegu: "Dwi ddim yn hoffi derbyn y peth, ond rwy'n gaeth i'r cyffur."

Roedd yn rhaid i'r dyn 58 oed i roi'r gorau i'w waith 15 mlynedd yn ôl oherwydd poen cronig oedd yn deillio o osteoporosis.

Mae Mr Rees yn defnyddio cadachau fentanyl, cyffur sy'n 50 i 100 gwaith yn gryfach na morffin, yn ogystal â thabledi eraill i leddfu ei boen.

Dywedodd y tad i ddau, tra oedd yn yr ysbyty yn ddiweddar, roedd yn rhaid iddo aros am 72 awr i gael ei feddyginiaeth.

"Roeddwn i'n chwysu. Roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy a phan ddaethon nhw, fe ddes i at fy hun. Cyn gynted ag y cefais y fentanyl roedd y byd yn lle gwell, ac mae hynny'n frawychus," meddai.

'Ofn defnyddio gwasanaethau'

Dywedodd Dr Julia Lewis, seiciatrydd dibyniaeth ymgynghorol yng Nghasnewydd, y gallai bod llawer mwy o bobl yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd.

"Y mater mwyaf yw, perswadio cleifion i gymryd rhan. Maent yn aml yn ofnus dod i ddefnyddio gwasanaethau ar gyfer dibyniaeth," meddai.

Dywedodd Emma Davies, awdur yr astudiaeth ei bod yn pryderu pa mor effeithiol oedd y cyffuriau hyn yn y tymor hir.

Wrth i gleifion barhau i'w cymryd, maen nhw'n "darganfod eu bod yn llai effeithiol", meddai.

"Mae angen i ni wneud pobl ym mhob sector a phob arbenigedd yn fwy ymwybodol o risgiau syn dod gyda'r meddyginiaethau hyn."

Dywedodd Coleg Brenhinol Meddygon Teulu y byddai "yn sicr yn croesawu cynnydd mewn gwasanaethau rheoli poen yng Nghymru".

Y mis diwethaf, cyhoeddodd Public Health England eu bod yn lansio adolygiad i'r "broblem gynyddol" hon, sy'n cynnwys poen laddwyr, tawelyddion a thabledi gwrth-iselder.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, fel rhannau eraill o'r DU, mae Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer y presgripsiynau ar gyfer y meddyginiaethau hyn dros y blynyddoedd diwethaf.

Ychwanegodd y bydd yn dechrau ymgynghori'n fuan ar yr arweiniad sy'n ymwneud â phoen parhaus.

"Bydd yr arweiniad hwn yn rhoi cyngor ac yn tynnu sylw at ffyrdd effeithiol o reoli poen parhaus a lleihau meddyginiaethau sydd ddim yn fuddiol," meddai.