Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A55

  • Cyhoeddwyd
Paul JonesFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Paul Jones, 40 oed o Benmaenmawr mewn gwrthdrawiad ar yr A55

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi enw dyn 40 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A55 ger Talybont, Bangor nos Fercher.

Roedd Paul Jones yn dod o ardal Penmaenmawr, Sir Conwy.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyffordd 11 yn Llandygai, Gwynedd am tua 21:45 nos Fercher.

Bu car Nissan, oedd yn teithio i'r cyfeiriad anghywir, mewn gwrthdrawiad gyda char Hyundai lliw du.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd traffig rhwng cyffordd 11 a 12 yr A55 ei ddargyfeirio nos Fercher yn dilyn y gwrthdrawiad

Mae gyrrwr y car Nissan yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr Ysbyty yn Stoke.

Fe wnaeth teulu Mr Jones dalu teyrnged iddo gan ei alw'n berson caredig, ffeind a doniol.

Mae'r heddlu'n parhau i apelio i unrhyw un welodd y gwrthdrawiad ar y ffordd ddwyreiniol o'r A55 i gysylltu gyda nhw ar 101.

Dywedodd y Sarjant Raymond Williams o Uned Plismona Ffyrdd, Heddlu'r Gogledd; "mae ein meddyliau i gyd gyda theulu Paul Jones yn y cyfnod anodd yma."