'Angen cefnogaeth gwirfoddolwyr' i gofnodi enwau lleoedd

  • Cyhoeddwyd
cymdeithas enwau lleoedd

Mae Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru'n galw am fwy o gefnogaeth a gwirfoddolwyr wrth iddyn nhw wynebu dyfodol ariannol ansicr.

Mae'r gymdeithas wedi cael arian loteri dros y pedair blynedd diwethaf ond mae'r nawdd hwnnw ar fin dod i ben.

Dros y Sul roedden nhw'n cynnal eu gweithdy diweddara' ym Methesda wrth iddyn nhw barhau â'u nod o greu bas data cenedlaethol o enwau hanesyddol Cymru ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

Mae digwyddiadau fel rhain yn galluogi'r gymdeithas i fanteisio ar wybodaeth pobl leol o'r enwau a'r ynganiadau - boed hynny'n ffermydd, caeau, ogofâu, llwybrau, ponciau chwareli, pyllau afonydd a llawer mwy.

'Rhaid cofnodi'r enwau rwan'

Mae trigolion lleol fel John Llewelyn Williams yn croesawu'r cyfle i roi rhan o hanes ar gof a chadw: "Mae 'na fwlch mawr yn enwau lleoedd Dyffryn Ogwen.

"Un o'r problemau ydy bod y cofnod ddaeth efo'r degwm ddim wedi enwi'r caeau o gwbl, dim ond rhifau sydd.

"Ma' hynny'n drasiedi fawr ac felly mae'n bwysig ein bod ni yn cofnodi'r enwau rwan yn y dyffryn yma. Mae gweithdai fel hyn yn bwysig iawn, iawn."

Ym mis Mawrth y llynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod creu deddf i warchod enwau - ond nod Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru ydy creu bas data cenedlaethol a map digidol ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

Dywedodd Dr Rhian Parry o'r Gymdeithas Enwau Lleoedd: "Unwaith mae'r enwau'n cael eu cofnodi, maen nhw'n mynd i gronfa ddigidol ddiogel fel bod nhw yno i'w rhannu ar ein gwefan newydd ni, fydd yn dod cyn hir.

"Yn enwedig mewn ardal fel hon yn Nyffryn Ogwen, ma' dringwyr yn dod, maen nhw'n newid enwau'n ddifeddwl ac mae'r enwau hynafol yn mynd ar goll.

"Gan bod 'na hanes yn perthyn i bob enw 'da ni'n colli'r etifeddiaeth yna."

Disgrifiad,

Dr Rhian Parry o'r Gymdeithas enwau Lleoedd yn gofyn am wahoddiad i ardaloedd ar draws Cymru

Un dasg ym Methesda oedd gosod enwau pyllau ar hyd Afon Ogwen a mae pysgotwyr lleol wedi bod yn helpu gyda'r gwaith.

Mae Bryn Evans yn ysgrifennydd Cymdeithas Pysgotwyr Dyffryn Ogwen: "'Dan ni'n gwybod am y pyllau ers blynyddoedd - wedi'u clywed nhw gan ein tadau a'n cyndadau - ond mae eisiau'u rhoi nhw lawr ar fap ar gyfer y dyfodol.

"Ond mae 'na rai pyllau doeddan ni ddim yn gyfarwydd â nhw, yn enwedig i lawr am gyfeiriad Castell Penrhyn, lle 'dan ni ddim yn cael pysgota. Llyn Lord a Llyn Lady, er enghraifft, yn y parc ar gyfer yr Arglwydd Penrhyn yn y gorffennol oedd rheiny."

Doedd dim prinder o awgrymiadau enwau gan y bobl ddaeth i Neuadd Ogwen dros y penwythnos, gan gynnwys Eirwen Morris.

"Fues i'n dysgu yn Capel Curig am 15 mlynedd a chlywed enwau reit anniddorol - dringwyr yn rhoi enwau ynde - Tin Can Alley ar y Chwarel Hogi, er enghraifft, am bod nhw'n taflu'u sbwriel yno," meddai.

"Mae 'na le o'r enw Independent Church ar y map. Ond tu ôl i'r capel mae 'na fryn sy'n gogwyddo lawr - Capel Bryn Gogwydd ydy ei enw o yn Gymraeg, dwi 'di ychwanegu'r enw at y map."

Angen gwahoddiad

Roedd y gweithdy diweddaraf yn llwyddiannus ond wrth i'r Gymdeithas Enwau Lleoedd wynebu dyfodol ansicr yn ariannol mae 'na gri am gymorth.

"Mi fydd y gymdeithas yn dal ati - ddown ni byth i ben mewn ffordd," meddai Dr Rhian Parry.

"'Dan ni'n gobeithio cael gwahoddiad i wahanol ardaloedd o Gymru - 'dan ni am gario 'mlaen i fynd.

"Os fydd ganddon ni arian sy'n beth arall. 'Dan ni 'di cael grant loteri dros y pedair blynedd diwetha' ond mae hwnnw'n dod i ben yn o lew o fuan.

"Ond 'dan ni'n gweithio'n wirfoddol ac ond i ni gael y diddordeb, bod pobl yn ein gwahodd ni i'w hardaloedd - dyna ydy allwedd y peth."