Merch, 5, yn marw ar ôl bod yn hwyr i apwyntiad meddyg

  • Cyhoeddwyd
Ellie-May ClarkFfynhonnell y llun, Athena Pictures

Mae cwest wedi clywed fod merch bump oed gyda hanes o asthma wedi cael ei gwrthod o apwyntiad brys gyda meddyg oherwydd ei bod hi'n hwyr.

Cafodd Ellie-May Clark a'i mam, o Gasnewydd, wybod gan y derbynnydd y byddai'n rhaid iddyn nhw ddychwelyd y bore canlynol wedi iddi siarad â Dr Joanne Rowe.

Clywodd y cwest fod gan feddygfa Grange "reol deng munud" ar gyfer cleifion oedd yn hwyr, ond mai dyma oedd y tro cyntaf iddi gael ei defnyddio ar gyfer claf brys.

Fe wnaeth Ellie-May Clark droi'n las yn ei chartref yn hwyrach y noson honno, a bu farw yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

Wrth gofnodi dyfarniad naratif, dywedodd y crwner Wendy James fod Ellie-May "wedi marw o achosion naturiol ble chafodd cyfle ei fethu i roi triniaeth allai fod wedi achub ei bywyd".

'Gwneud pethau'n wahanol'

Clywodd y cwest dystiolaeth gan fam Ellie-May, Shanice Clark a ddywedodd ei bod hi wedi gofyn am ymweliad cartref gan feddyg gyntaf cyn cael apwyntiad brys.

Cafodd alwad am 16:35 yn dweud wrthi am ddod i mewn erbyn 17:00, ond dywedodd y byddai o bosib ychydig yn hwyr oherwydd bod angen iddi wneud trefniadau gofal ar gyfer ei babi.

Dywedodd Miss Clark ei bod wedi cyrraedd y feddygfa am 17:05 a chael ei gweld gan y derbynnydd bedwar neu bum munud yn ddiweddarach.

Ond yn ôl y cyn-dderbynnydd, Ann Jones roedd hi'n 17:18 erbyn iddi ffonio Dr Rowe i ddweud fod Ellie-May wedi cyrraedd.

Dywedodd Ms Jones fod gan y feddygfa reol answyddogol y gallai cleifion orfod dychwelyd rywbryd eto os oedden nhw fwy na 10 munud yn hwyr, a bod Dr Rowe yn un o'r meddygon teulu oedd yn gweithredu'r rheol yn fwy aml.

Ychwanegodd fodd bynnag mai dyma'r unig dro yr oedd wedi gwrthod claf oedd wedi cael apwyntiad brys.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd mam Ellie-May wybod gan Feddygfa Grange Clinic yng Nghasnewydd y byddai'n gorfod dychwelyd am apwyntiad arall

Dywedodd Miss Clark ei bod yn "gwybod nad oedd yn argyfwng 999" a'i bod wedi gweld ei merch mewn cyflwr gwaeth, ond "yn amlwg nawr bydden i wedi gwneud pethau'n wahanol".

Clywodd y cwest fod y fam a'r ferch wedi dychwelyd adref, ac am 22:30 fe aeth Miss Clark i 'stafell Ellie-May ar ôl ei chlywed yn peswch.

Fe ddisgynnodd y ferch oddi ar y gwely a dywedodd Miss Clark ei bod yn troi'n las, felly fe ffoniodd ambiwlans, ond bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Yn ôl y meddyg wnaeth gynnal yr archwiliad post-mortem ar Ellie-May, cafodd ei marwolaeth ei achosi gan asthma bronciol.

Diffyg cynllun gofal

Roedd ysgyfaint Ellie yn dangos arwyddion o asthma difrifol, a chymhlethdodau oedd wedi codi o hynny.

Roedd marc brathiad ar dafod Ellie-May, yn gyson gyda'r trawiad gafodd hi cyn ei marwolaeth, a chlywodd y cwest fod hynny'n gallu digwydd i rywun oedd yn dioddef o lefelau ocsigen isel.

Dywedodd y crwner y byddai'n ysgrifennu adroddiad i bartneriaid meddygfa Grange a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, yn ogystal ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn trafod y diffyg cynllun gofal i Ellie-May Clark.

Bydd Ms James hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â pham gafodd y claf ei gwrthod o apwyntiad brys heb unrhyw asesiad na chyngor, y diffyg cefnogaeth i staff wrth herio penderfyniadau, yr oedi wrth asesu ar gyfer yr apwyntiad brys, a diffygion yn y nodiadau am gyflwr iechyd y ferch.

Mewn datganiad dywedodd teulu Ellie-May Clark fod y ferch wedi "ei methu gan y system" a'u bod yn siomedig nad oedd y crwner wedi rhoi dyfarniad o "esgeulustod".

Dywedodd cyfreithiwr ar eu rhan: "Mae'r teulu yn cydnabod ymddiheuriad Dr Rowe, yn enwedig gan eu bod wedi bod yn aros dros dair blynedd am ddatrysiad ac i gael atebion i'w cwestiynau."

Ychwanegodd mam-gu Ellie-May, Brandi Clark: "Roedd Ellie-May yn blentyn perffaith. Roedd hi mor hapus a chariadus."