Dim gorfodaeth gwasanaethau Cymraeg ar feddygon teulu
- Cyhoeddwyd
Ni fydd raid i feddygon teulu ddarparu gwasanaethau i gleifion yn y Gymraeg dan gynlluniau newydd fydd yn cael ei rhyddhau gan Lywodraeth Cymru ddydd Mawrth.
Mae rhaglen 'Newyddion 9' yn deall y bydd y safonau yn eithrio meddygfeydd, deintyddion, fferyllfeydd ac optegwyr.
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws eisoes wedi dweud bod hi'n hanfodol cynnwys y rheini hefyd.
Mewn ymateb i ymgynghoriad gan y llywodraeth yn 2016, dywedodd Ms Huws:
"Gan mai gofal sylfaenol yw cyswllt cyntaf mwyafrif aelodau'r cyhoedd gyda'r Gwasanaeth iechyd, cred Comisiynydd y Gymraeg ei bod yn hanfodol sicrhau cysondeb ymddygiad ieithyddol ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ei gyfanrwydd.
"O ganlyniad, rhaid i ddarparwyr gofal sylfaenol fod yn ddarostyngedig i safonau'r Gymraeg o dan yr un fframwaith statudol â'r sefydliadau iechyd a fu'n destun i'r ymchwiliad safonau hwn'.
"Daw'r Comisiynydd felly i'r casgliad bod angen safonau ychwanegol er mwyn galluogi hyn i ddigwydd," meddai.
Fe ddaeth y safonau iaith i rym yn 2016 sy'n golygu fod cynghorau lleol, Llywodraeth Cymru a Pharciau Cenedlaethol yn gorfod bod yn glir eu bod nhw'n fodlon croesawu gohebiaeth gyda'r cyhoedd yn y Gymraeg, a rhoi blaenoriaeth i'r iaith ar arwyddion dwyieithog.
Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd y rheolau sy'n datgan safonau'r Iaith Gymraeg ar gyfer byrddau iechyd lleol, Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru, Cyngor Gofal Iechyd a'r bwrdd Cyngor Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu trafod yn y Cynulliad ar 27 Chwefror.
"Byddwn yn gwneud sylw pellach ar y rheolau wedi hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2018