Dim cyfrifoldebau dros gwynion iaith i'r Ombwdsmon
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog y Gymraeg wedi dweud na fydd hi'n trosglwyddo cyfrifoldebau dros ddelio â chwynion am wasanaethau yn yr iaith i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.
Dywedodd Eluned Morgan ei bod wedi ystyried y mater yn ofalus, ond fod "y cymhlethdodau yn drech na'r manteision".
Llynedd fe wnaeth yr ombwdsmon Nick Bennett awgrymu y gallai gymryd cyfrifoldeb dros ddelio â chwynion yn ymwneud â thorri safonau iaith.
Byddai hynny wedi dod fel rhan o newidiadau i rôl a swyddogaethau Comisiynydd y Gymraeg.
'Dadleuon pwerus'
Ym mis Awst fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am gael gwared â swydd y comisiynydd, gan greu comisiwn i hybu'r iaith a rhoi'r cyfrifoldeb am safonau iaith i weinidogion.
Yn dilyn hynny fe wnaeth Mr Bennett gynnig cymryd cyfrifoldeb am y cwynion am wasanaethau yn y Gymraeg.
Pan gafodd Eluned Morgan ei phenodi fel Gweinidog y Gymraeg i olynu Alun Davies ym mis Tachwedd, dywedodd ei bod yn ystyried sylwadau Mr Bennett.
Mynnodd yr ombwdsmon nad oedd yn ceisio "ymestyn ei ymerodraeth", gan ddweud: "Dwi ddim eisiau bod yn Gomisiynydd Iaith."
Mewn datganiad ddydd Iau dywedodd y Farwnes Morgan ei bod wedi ystyried cynnig Mr Bennett "mewn manylder", a'i bod wedi gweld sawl budd iddo.
Dywedodd fod yr ombwdsmon yn "arbenigwr wrth ddelio â chwynion a chynnal ymchwiliadau mewn ystod eang o sefyllfaoedd ble mae gwasanaethau cyhoeddus wedi methu", a'i fod yn "effeithiol wrth ei waith".
Ychwanegodd y byddai trosglwyddo cyfrifoldebau dros gwynion iddo yn ffordd o "normaleiddio'r Gymraeg" fel rhan o strategaeth miliwn o siaradwyr y llywodraeth, a bod sefyllfaoedd tebyg eisoes yn bodoli yng Nghatalunya a Gwlad y Basg.
"Mae'r rhain yn ddadleuon pwerus y dylen ni gadw mewn cof ar gyfer y dyfodol," meddai.
'Goblygiadau ehangach'
Dywedodd fodd bynnag fod llawer o "drafferthion" wedi codi, gan gynnwys y ffaith bod adrannau o Lywodraeth y DU a rhai cwmnïau preifat ymysg y rheiny fydd yn cael eu heffeithio gan y safonau iaith.
"Petai ni'n gweithredu ar gynigion yr ombwdsmon, byddai'n rhaid i ni ymestyn pwerau'r ombwdsmon yn sylweddol," meddai.
Ychwanegodd: "Rydw i'n ystyried y byddai gan hyn oblygiadau llawer ehangach na pholisi iaith Gymraeg yn unig."
Dywedodd ei bod am y rheswm hwnnw "ddim am fynd â'r mater ymhellach", ac y byddai'n cyhoeddi ymatebion i'r ymgynghoriad ar bapur gwyn y llywodraeth ar y ddeddf iaith yr wythnos nesaf.
Roedd cynnig yr ombwdsmon wedi codi gwrychyn grŵp ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith, ac fe wnaeth hefyd arwain at ffrae ar y cyfryngau cymdeithasol rhwng Mr Bennett ac AC Plaid Cymru, Adam Price, a gyhuddodd yr ombwdsmon o gefnogi diddymu swydd Comisiynydd y Gymraeg.
Wrth ymateb i gyhoeddiad y Farwnes Morgan dywedodd Osian Rhys, is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Rydyn ni'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw, ond yn galw ar y Gweinidog hefyd i ollwng y cynllun annoeth i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg.
"I lawer ohonon ni, wedi'r pwyslais cadarnhaol ar gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg, fe wnaeth y papur gwyn godi sgwarnogod anffodus sydd mewn peryg o chwalu'r cyfeiriad clir a chadarn yna.
"Byddai'n llawer gwell i swyddogion ganolbwyntio ar waith arall, gan gynnwys gosod Safonau ar ragor o gyrff a chwmnïau, yn hytrach na gwastraffu amser ar bapur gwyn a fyddai, o'i weithredu, yn troi'r cloc yn ôl i gyfnod Deddf Iaith 1993 wnaeth fethu amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd9 Awst 2017