Gwrthdrawiad Gellilydan: Dynes yn gwella'n dda mewn ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod y ddynes gafodd ei hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ger Gellilydan ar Ionawr 11, yn gwella'n dda yn yr ysbyty.
Fe gafodd Sioned Williams ei hedfan i'r ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol wed'r gwrthdrawiad ar ffordd yr A487, ond mae hi bellach yn gwneud cynnydd cadarnhaol yn yr ysbyty.
Bu farw ei chwaer, Anna Williams, 22, a'i merch chwe mis oed, Mili Wyn Ginniver yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng car Ford Fiesta a lori.
Dywed llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru fod y teulu wedi mynegi eu diolch cywiraf i'r gymuned leol am y gefnogaeth a roddwyd iddyn nhw.
Fe gasglodd y gymuned leol filoedd o bunnau i gefnogi'r teulu wedi'r digwyddiad.
Y disgwyl oedd i'r arian gael ei ddefnyddio i dalu am gostau teithio i Ysbyty Brenhinol Stoke, lle mae Ms Williams yn cael ei thrin.
Mae'r ymchwiliad i'r gwrthdrawiad yn parhau ac mae swyddogion o Heddlu'r Gogledd wedi diolch i'r holl dystion sydd wedi cyflwyno gwybodaeth hyd yma.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2018